Rheolwr Tîm, Deallusrwydd Data a Dadansoddeg – Uwch-swyddog Gweithredol
Lleoliad:
Caerfyrddin, Cyffordd Llandudno, Merthyr Tudful, Cymru
Cyflog:
£47,675
Cyfeirnod:
Cyf 3726
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Dyddiad Cau:
18-05-2026
Lleoliad: Ledled Cymru - Gall y rôl gael ei lleoli yn un o brif swyddfeydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ym Merthyr Tudful, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno.
AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn adrodd i'r Uwch-reolwr Prosiect, Data a Gwasanaethau TGCh, a bydd yn llywio'r broses o gasglu data, dadansoddi a rheoli perfformiad ac yn ei goruchwylio ar ran AGC.
Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio gyda chydweithwyr i nodi eu gofynion o ran gwybodaeth, datblygu datrysiadau gwybodaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ynghylch y broses o gasglu a defnyddio gwybodaeth ym mhob rhan o'r sefydliad.
Mae AGC yn sefydliad a arweinir gan ddeallusrwydd ac mae'r rôl hon yn allweddol i alluogi hyn.
Gweithio gyda'r Uwch-reolwr i ddatblygu strategaeth i lywio a darparu gwasanaeth data sy'n galluogi'r sefydliad i sicrhau ei fod yn cael ei arwain gan ddeallusrwydd.
Gweithio gyda chydweithwyr ym mhob rhan o AGC i nodi eu gofynion o ran gwybodaeth ac arwain y gwaith o ddatblygu datrysiadau priodol, gan gynnwys adroddiadau ac offer data hunanwasanaeth.
Datblygu'r defnydd o dechnegau dadansoddi data i lunio modelau dadansoddi a rhagweld, gan ddarparu deallusrwydd gwell o'r data.
Meithrin a chynnal rhwydweithiau â darparwyr gwybodaeth sy'n gysylltiedig â gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru, gan sicrhau bod AGC yn ymwybodol o ffynonellau data a bod anghenion AGC o ran gwybodaeth yn cael eu cynrychioli.
Bod yn rheolwr llinell uniongyrchol ar bum Swyddog Gweithredol Uwch ac un Swyddog Gweithredol.
Bod yn gyfrifol am gynllunio gwaith y tîm, gan sicrhau ei fod yn dilyn amcanion busnes cyffredinol AGC, a rhoi trefniadau rheoli perfformiad priodol ar waith i ategu a dangos y gwasanaeth a ddarperir.
Rheoli'r broses o gasglu data, dosbarthu data, dadansoddi a chyflwyno data.
Arwain y gwaith o lunio adroddiadau rheolaidd ac ad-hoc ar berfformiad i'r Tîm Arwain Gweithredol.
Arwain y broses o ddatblygu cynllun gwaith blynyddol i sicrhau cwmpas digonol ar gyfer y gwaith o archwilio ac adolygu system CRM er mwyn sicrhau a chynnal cywirdeb data. Cyfrannu at Ddatblygiad Digidol, gan gynnwys arwain y gofynion o ran gwybodaeth ac adrodd.
Rheoli eich datblygiad proffesiynol eich hun a cheisio cyfleoedd priodol drwy drafod â'r Uwch-reolwr, Prosiect, Data a Gwasanaethau TGCh.