Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae’r hysbyseb hon a’r disgrifiad swydd llawn ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau a chymryd rhan yn y cyfweliadau yn y naill iaith neu’r llall. Gellir dod o hyd i swydd-ddisgrifiadau Cymraeg o dan y cynwysyddion uchod.
Rydym wedi cyrraedd adeg dyngedfennol yn ein hanes. Ganwyd Welsh National Opera Cenedlaethol Cymru o’r ysbryd democrataidd a welwyd ar ôl y rhyfel – ysbryd a daniwyd gan angerdd cenedlaethol dros gysylltiad dynol trwy gyfrwng cân. Eleni, a ninnau’n dathlu 80 mlynedd ers ein sefydlu, rydym yn ailddehongli’r cwmni fel sefydliad opera cyfoes sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac sydd wedi’i wreiddio yng Nghymru, ond sydd hefyd yn uchelgeisiol ar y llwyfan rhyngwladol.
Dymunwn ailddiffinio’r hyn y gall opera fod heddiw, gan sicrhau bod WNO yn rym beiddgar, dewr a llawn gorfoledd yn ecoleg celfyddydau byw y DU. Anelwn at hyrwyddo amrywiaeth ar y llwyfan ac ymhlith ein cynulleidfaoedd, gan brofi mai opera yw ffurf gelfyddydol ddeinamig y dydd sydd ohoni.
Yn y bennod nesaf hon, rydym yn chwilio am Uwch-gynhyrchydd arbennig i chwarae rôl ganolog o ran ategu a chyflawni rhaglen graidd WNO dan y weledigaeth artistig newydd. Gan weithio’n agos â’r Cynhyrchydd Gweithredol a chyda chydweithwyr ledled y cwmni, bydd yr Uwch-gynhyrchydd yn rheoli’r gwaith o gynllunio a chyflawni cynyrchiadau a phrosiectau uchelgeisiol a fydd yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ledled Cymru, y DU a thu hwnt. Dyma rôl reoli allweddol a fydd yn cyfuno mewnwelediad creadigol ac arbenigedd gweithredol er mwyn sicrhau y bydd ein gwaith yn feiddgar ac yn gynhwysol, ac y bydd yn cyrraedd y safonau uchaf.
Byddwch yn dangos angerdd dros opera a pherfformiadau byw, ochr yn ochr ag arbenigedd ymarferol a strategol, er mwyn gwireddu cynyrchiadau cymhleth. Byddwch yn ffynnu mewn amgylchedd cydweithredol, gan greu cydberthnasau cryf gydag artistiaid, partneriaid a chydweithwyr, a chan gyfrannu at ddiwylliant dyfeisgar ac agored sy’n edrych tua’r dyfodol.
Gyda’r tîm iawn wrth ein hochr, credwn fod hyn yn bosibl.
Yn gywir,
Eich Opera Cenedlaethol Cymru / Your Welsh National Opera
Cydnabyddwn fod pobl dalentog yn oedi weithiau cyn ymgeisio pan na fônt yn bodloni pob un o’r gofynion. Dengys gwaith ymchwil fod hyn yn arbennig o wir yn achos menywod, unigolion LHDTCRhA+, pobl anabl a niwrowahanol, a phobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol. Os mai’r rôl hon yw’r rôl ddelfrydol i chi, rydym yn eich annog i ymgeisio – hyd yn oed os nad yw eich profiad yn cyd-fynd yn berffaith â’r holl feini prawf.
Mae WNO wedi ymrwymo i gynnal proses recriwtio hygyrch a chynhwysol. Os byddwch angen unrhyw addasiadau i ategu eich cais neu eich cyfweliad, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad recruitment@wno.org.uk.
Mae WNO yn gweithredu Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ac sy’n hunanuniaethu fel Unigolyn o’r Mwyafrif Byd-eang, unigolyn anabl neu unigolyn niwrowahanol. Gall ymgeiswyr cymwys ofyn am gael eu hystyried dan y cynllun trwy anfon e-bost i’r cyfeiriadrecruitment@wno.org.uk. Ceir rhagor o fanylion yn y swydd-ddisgrifiad.
Lawrlwythwch y swydd-ddisgrifiad llawn i gael rhagor o wybodaeth. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r rôl, os byddwch angen addasiadau rhesymol yn ystod y broses recriwtio, neu os yw’r ffurflen gais ar-lein yn anhygyrch, cysylltwch â: recruitment@wno.org.uk.