A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Prosiectau / Swyddle
Position:
Rheolwr Prosiectau
Location:
Wales
Salary:
£33,000
Ref:
RP
Job Type:
Fixed Term Contract
Client:
Mentrau Iaith Cymru
Closing Date:
05-06-2026

Disgrifiad Swydd 

Mai 2026 

 

Teitl y Swydd 

Rheolwr Prosiectau 

Yn atebol i 

Cyfarwyddwr 

Cyflog 

£33,000 

Oriau Gwaith 

37 awr yr wythnos 

Cytundeb 

Blwyddyn, gyda’r bwriad o ymestyn yn ddibynnol ar gyllid 

Lleoliad 

Hyblyg 

 

Mae’r swydd hon yn galw am unigolion trefnus, hyblyg, brwdfrydig a hyderus sydd yn gallu meistroli nifer o elfennau amrywiol sydd ynghlwm â gwaith Mentrau Iaith Cymru. Bydd gofyn gallu teithio i amryw o leoliadau ledled Cymru yn ôl y galw.  

Amdanom ni 

Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) wedi bod yn gweithredu fel corff canolog i gefnogi gwaith y rhwydwaith o Fentrau Iaith lleol ers 1999 trwy amryw o weithgareddau.  Ein prif nod yw i ddarparu cyfleoedd i rwydweithio, roi llais i’r rhwydwaith, datblygu prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol sy’n caniatáu i’r rhwydwaith weithio ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol, a chynnig cefnogaeth ac arweiniad i’r Mentrau Iaith ar faterion amrywiol, gan gynnwys polisi mewnol, staffio, ymchwil a chyfleoedd datblygu yn y maes cynllunio iaith.  

Rydym yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn chwarae rôl bwysig o fewn y 3ydd sector.   

Prif Bwrpas y Swydd 

Gweithio fel rhan o dîm bychan sy'n cefnogi gwaith y Mentrau Iaith ledled Cymru.  Darparu cefnogaeth i’r rhwydwaith o Fentrau Iaith a rheoli prosiectau sy’n ychwanegu gwerth i waith y Mentrau wrth iddynt gryfhau’r Gymraeg yn y gymuned.  Mae cydlynu gwaith ar draws y rhwydwaith o fentrau iaith a chynnal partneriaethau yn maes yr amgylchedd yn rhan greiddiol o’r swydd hon.  Mae elfennau eraill yn cynnwys datblygu prosiectau yn maes y celfyddydau a hyfforddiant. 

 

 

Prif Ddyletswyddau a chyfrifoldebau: 

  • Arwain ar y gwaith o sefydlu prosiect cymunedol newydd wedi’i ariannu, yn y maes cynaliadwyedd amgylcheddol, ar draws rhwydwaith y Mentrau Iaith 

  • Cydlynu a datblygu cefnogaeth i’r Mentrau: rhannu arfer da, cynorthwyo i sefydlu partneriaethau, 

  • Trefnu hyfforddiant i swyddogion y Mentrau, 

  • Rheoli a chydweithio ar brosiectau cenedlaethol amrywiol, 

  • Cydweithio ar drefnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd cenedlaethol 

  • Cyfathrebu gyda’r Mentrau Iaith 

  • Darparu elfennau o hyfforddiant neu weithdai yn ôl y galw 

  • Cydweithio â phartneriaid allweddol a datblygu partneriaethau newydd 

  • Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chynrychioli buddion MIC a’r Mentrau 

 

Dyletswyddau a chyfrifoldebau cyffredinol: 

  • Cefnogi gwaith swyddogion eraill MIC i gyflawni gweithgareddau a phrosiectau amrywiol 

  • Paratoi adroddiadau rheolaidd ar y gwaith a gyflawnwyd er mwyn adrodd i Bwyllgor Gweithredol MIC a Llywodraeth Cymru 

  • Mynychu digwyddiadau MIC  

  • Mynychu cyrsiau hyfforddiant a chyfarfodydd perthnasol 

  • Ymgymryd ag unrhyw dasgau a gofynion eraill rhesymol  

 

Sgiliau / Profiad hanfodol 

  • Yn drefnus ac effeithiol, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol o safon uchel, 

  • Y gallu i drefnu gwaith heb gyfarwyddyd uniongyrchol gan ddatblygu syniadau a strategaethau newydd, 

  • Profiad o gydlynu a datblygu partneriaethau, 

  • Y gallu i gydweithio ag eraill, dwyn perswâd ac ennyn diddordeb a brwdfrydedd, 

  • Sgiliau cyfrifiadurol da, 

  • Profiad o reoli prosiectau a llunio adroddiadau, 

  • Yn meddu ar drwydded yrru lân a chyfredol a defnydd o drafnidiaeth eich hunan, 

  • Yn meddu ar fynegiant ysgrifenedig, dwyieithog, safonol (Cymraeg a Saesneg),  

  • Dealltwriaeth o waith MIC, Mentrau Iaith a phartneriaid sy’n ymwneud â’r maes hyrwyddo’r Gymraeg, 

  • Profiad o reoli cyllid/ cyllidebau,  

  • Profiad o lunio ceisiadau ariannol.  

 

Sgiliau / profiad dymunol 

  • Profiad a dealltwriaeth o waith y trydydd sector yng Nghymru 

  • Ymwybyddiaeth sylfaenol o faterion newid hinsawdd 

  • Profiad o lunio strategaethau 

  • Dealltwriaeth o theorïau newid ymddygiad,  polisi iaith a’r maes cynllunio iaith yng Nghymru.  

 

I dderbyn y ffurflen gais, anfonwch e-bost at post@mentrauiaith.cymru

Cwblhewch y ffurflen gais a’i hanfon atom erbyn y 5ed o Fehefin 2026 erbyn hanner dydd.

Cliciwch ar ddolen CEISIO NAWR i weld rhagor o wybodaeth sydd ar gael ar ein gwefan.