Mae Swyddle yn eich galluogi i ddod o hyd i’r ymgeisydd dwyieithog mwyaf addas ar gyfer eich sefydliad ac yn y modd cost-effeithiol.
• Hysbysebwch swyddi ar wefan Swyddle lle mae'r Gymraeg yn hanfodol neu yn fanteisiol.
• Rydym yn cynnig gwasanaeth recriwtio dwyieithog i ddod o hyd i’r staff perffaith (dros dro neu barhaol) ar gyfer eich anghenion chi.
• Mae Swyddle yn hysbysebu’r wefan er mwyn denu ymgwiswyr.
Os oes diddordeb gyda chi i chwilio am gyfleoedd i ennill bywoliaeth drwy gyfrwng y Gymraeg neu i gael cyfle i ddatblygu eich hyder a’ch gallu yn y Gymraeg yn eich bywyd proffesiynol, mae Swyddle yma i’ch helpu.
• Edrychwch drwy ein swyddi gwag.
• Llwythwch eich CV er mwyn medru ceisio am unrhyw swydd ar ein gwefan a chael eich cyflwyno i gyflogwyr ar gyfer swyddi addas.
• Gallwch hefyd gofrestru am gyflogaeth dros dro.
Cysylltwch â Ni Heddiw