Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Disgrifiad Swydd
Mai 2026
|
Teitl y Swydd |
Rheolwr Prosiectau |
|
Yn atebol i |
Cyfarwyddwr |
|
Cyflog |
£33,000 |
|
Oriau Gwaith |
37 awr yr wythnos |
|
Cytundeb |
Blwyddyn, gyda’r bwriad o ymestyn yn ddibynnol ar gyllid |
|
Lleoliad |
Hyblyg |
Mae’r swydd hon yn galw am unigolion trefnus, hyblyg, brwdfrydig a hyderus sydd yn gallu meistroli nifer o elfennau amrywiol sydd ynghlwm â gwaith Mentrau Iaith Cymru. Bydd gofyn gallu teithio i amryw o leoliadau ledled Cymru yn ôl y galw.
Amdanom ni
Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) wedi bod yn gweithredu fel corff canolog i gefnogi gwaith y rhwydwaith o Fentrau Iaith lleol ers 1999 trwy amryw o weithgareddau. Ein prif nod yw i ddarparu cyfleoedd i rwydweithio, roi llais i’r rhwydwaith, datblygu prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol sy’n caniatáu i’r rhwydwaith weithio ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol, a chynnig cefnogaeth ac arweiniad i’r Mentrau Iaith ar faterion amrywiol, gan gynnwys polisi mewnol, staffio, ymchwil a chyfleoedd datblygu yn y maes cynllunio iaith.
Rydym yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn chwarae rôl bwysig o fewn y 3ydd sector.
Prif Bwrpas y Swydd
Gweithio fel rhan o dîm bychan sy'n cefnogi gwaith y Mentrau Iaith ledled Cymru. Darparu cefnogaeth i’r rhwydwaith o Fentrau Iaith a rheoli prosiectau sy’n ychwanegu gwerth i waith y Mentrau wrth iddynt gryfhau’r Gymraeg yn y gymuned. Mae cydlynu gwaith ar draws y rhwydwaith o fentrau iaith a chynnal partneriaethau yn maes yr amgylchedd yn rhan greiddiol o’r swydd hon. Mae elfennau eraill yn cynnwys datblygu prosiectau yn maes y celfyddydau a hyfforddiant.
Prif Ddyletswyddau a chyfrifoldebau:
Arwain ar y gwaith o sefydlu prosiect cymunedol newydd wedi’i ariannu, yn y maes cynaliadwyedd amgylcheddol, ar draws rhwydwaith y Mentrau Iaith
Cydlynu a datblygu cefnogaeth i’r Mentrau: rhannu arfer da, cynorthwyo i sefydlu partneriaethau,
Trefnu hyfforddiant i swyddogion y Mentrau,
Rheoli a chydweithio ar brosiectau cenedlaethol amrywiol,
Cydweithio ar drefnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd cenedlaethol
Cyfathrebu gyda’r Mentrau Iaith
Darparu elfennau o hyfforddiant neu weithdai yn ôl y galw
Cydweithio â phartneriaid allweddol a datblygu partneriaethau newydd
Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chynrychioli buddion MIC a’r Mentrau
Dyletswyddau a chyfrifoldebau cyffredinol:
Cefnogi gwaith swyddogion eraill MIC i gyflawni gweithgareddau a phrosiectau amrywiol
Paratoi adroddiadau rheolaidd ar y gwaith a gyflawnwyd er mwyn adrodd i Bwyllgor Gweithredol MIC a Llywodraeth Cymru
Mynychu digwyddiadau MIC
Mynychu cyrsiau hyfforddiant a chyfarfodydd perthnasol
Ymgymryd ag unrhyw dasgau a gofynion eraill rhesymol
Sgiliau / Profiad hanfodol
Yn drefnus ac effeithiol, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol o safon uchel,
Y gallu i drefnu gwaith heb gyfarwyddyd uniongyrchol gan ddatblygu syniadau a strategaethau newydd,
Profiad o gydlynu a datblygu partneriaethau,
Y gallu i gydweithio ag eraill, dwyn perswâd ac ennyn diddordeb a brwdfrydedd,
Sgiliau cyfrifiadurol da,
Profiad o reoli prosiectau a llunio adroddiadau,
Yn meddu ar drwydded yrru lân a chyfredol a defnydd o drafnidiaeth eich hunan,
Yn meddu ar fynegiant ysgrifenedig, dwyieithog, safonol (Cymraeg a Saesneg),
Dealltwriaeth o waith MIC, Mentrau Iaith a phartneriaid sy’n ymwneud â’r maes hyrwyddo’r Gymraeg,
Profiad o reoli cyllid/ cyllidebau,
Profiad o lunio ceisiadau ariannol.
Sgiliau / profiad dymunol
Profiad a dealltwriaeth o waith y trydydd sector yng Nghymru
Ymwybyddiaeth sylfaenol o faterion newid hinsawdd
Profiad o lunio strategaethau
Dealltwriaeth o theorïau newid ymddygiad, polisi iaith a’r maes cynllunio iaith yng Nghymru.
I dderbyn y ffurflen gais, anfonwch e-bost at post@mentrauiaith.cymru
Cwblhewch y ffurflen gais a’i hanfon atom erbyn y 5ed o Fehefin 2026 erbyn hanner dydd.
Cliciwch ar ddolen CEISIO NAWR i weld rhagor o wybodaeth sydd ar gael ar ein gwefan.