A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau / Swyddle
Swydd:
Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau
Lleoliad:
Aberystwyth, Hybrid
Cyflog:
£33,001.64 - £38,784.49
Cyfeirnod:
AGS26918a
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol Lefel 4
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( 12 Mis, Llawn Amser (36.5 awr) )
Cleient:
Aberystwyth University
Dyddiad Cau:
27-09-2026

Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau
Marchnata Byd-eang a Denu Myfyrwyr
36.5 awr yr wythnos 
Cyfnod penodol 12 mis
Gradd 6 : £33,001.64 - £38,784.49 y flwyddyn

 

Y swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus i ymuno â'n tîm Marchnata Trosi Ceisiadau.  Bydd y Swyddog Marchnata Trosi Ceisiadau yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu a chyflawni ymgyrchoedd marchnata sy’n ymwneud â throsi ac ysgoloriaethau ac sy'n cynorthwyo darpar fyfyrwyr trwy gydol eu taith o’r cyfnod ymgeisio hyd at gofrestru.  Gan weithio o fewn y tîm Marchnata Trosi Ceisiadau, sy'n gyfrifol am feithrin ymgeiswyr trwy gyfathrebu â hwy’n bersonol ar draws sawl platfform, bydd deiliad y swydd yn arwain ac yn cyfrannu at ystod o brosiectau ar draws sianeli marchnata digidol a thraddodiadol.  Mae'r rôl yn cynnal y broses o ddenu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ar draws marchnadoedd y DU ac yn rhyngwladol, gan helpu i ddarparu gohebiaeth ddiddorol, amserol ac effeithiol sy'n annog myfyrwyr i gofrestru.  

Gall y swydd hon fod yn swydd gweithio o bell – gallwch ddewis gweithio o  bell yn gyfan gwbl (gallwch hefyd ddewis gweithio o'r swyddfa neu weithio’n hybrid).  Noder y bydd gofyn i ddeiliad y swydd fynd i ddigwyddiadau Prifysgol Aberystwyth a chyfarfodydd staff ar y campws yn achlysurol (e.e. Digwyddiadau i Ymgeiswyr, Clirio).  

I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â'r Rheolwr Marchnata Trosi Ceisiadau, Sulwen Richards, trwy e-bostio sur9@aber.ac.uk

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.  

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Gallai'r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a'i newid i gyd-fynd â newidiadau yn anghenion y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol, ac/neu i ychwanegu unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill. 

•    Helpu i ddatblygu ac arwain cynlluniau marchnata ar gyfer ymgyrchoedd allweddol trosi ceisiadau, i gynulleidfaoedd israddedig ac ôl-raddedig yn y DU ac yn rhyngwladol
•    Arwain y gwaith o gyflawni ymgyrchoedd a phrosiectau trosi ceisiadau gan ddefnyddio cyllideb benodol ac i fodloni dangosyddion perfformiad allweddol a ddarperir gan y Pennaeth Marchnata Trosi Ceisiadau, gan roi adroddiadau am gynnydd yr ymgyrchoedd i'r Rheolwr Marchnata Trosi Ceisiadau yn rheolaidd  
•    Olrhain, monitro a dadansoddi cynnydd ac effeithiolrwydd yr ymgyrchoedd, gan gynhyrchu adroddiadau ac argymhellion ar gyfer y Rheolwr Marchnata Trosi Ceisiadau a'r Pennaeth Marchnata Trosi Ceisiadau ar ddiwedd pob ymgyrch 
•    Datblygu ymgyrchoedd creadigol, arloesol a chystadleuol i drosi ceisiadau, gan gyfuno cyfryngau marchnata digidol a thraddodiadol i helpu’r Brifysgol greu argraff drawiadol yn y farchnad Addysg Uwch er mwyn denu cynifer o fyfyrwyr â phosibl a sicrhau’r gyfran fwyaf bosibl o’r farchnad  
•    Datblygu perthynas gref gyda staff ledled adrannau academaidd ac adrannau gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol 
•    Datblygu a rheoli cysylltiadau â chwmnïau trydydd parti (megis Gecko, The Student Room, Unibuddy) 
•    Datblygu a chyflwyno gweithgareddau cyswllt ar-lein ar gyfer ymgeiswyr sy'n bodloni dangosyddion perfformiad allweddol
•    Ysgrifennu cynnwys ar gyfer deunyddiau marchnata a goruchwylio’r gwaith o’u cynhyrchu
•    Ymchwilio, ysgrifennu a golygu deunyddiau ar draws cyfryngau marchnata priodol (gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, a llwyfannau ar-lein) i hyrwyddo gwaith y Brifysgol i gynulleidfaoedd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol
•    Arwain ar weithgareddau hanfodol Rheoli Cysylltiadau â Chwsmeriaid gan ddefnyddio gweithdrefnau sefydledig, gan gynnwys adrodd, dadansoddi data arferol, diweddaru templedi e-bost a chreu teithiau cwsmeriaid
•    Sicrhau bod brand a chanllawiau arddull y Brifysgol yn cael eu hyrwyddo’n gyson ar draws yr holl ddeunyddiau marchnata 
•    Cynrychioli’r Brifysgol mewn digwyddiadau gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr, Diwrnodau Agored, Cynadleddau UCAS 
•    Ymgymryd â dyletswyddau eraill a glustnodir i chi gan eich rheolwr llinell, sy’n cyd-fynd â graddfa'r swydd.  
•    Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n addas i'r swydd  
•    Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, a deall sut mae'n gweithredu o fewn cyfrifoldebau'r swydd
•    Ymrwymo i'ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff trwy ddefnyddio Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
•    Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt
•    Cymryd rhan mewn prosiectau a rhaglenni ar lefel y brifysgol yn unol â chyfarwyddiadau, ac ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy'n gymesur â'r rôl, fel y'u pennir i chi gan y rheolwr llinell. 
•    Dangos hyblygrwydd trwy gynorthwyo cydweithwyr mewn cyfnodau pan fo’r llwyth gwaith yn drwm, gan gynnwys mynd i ddigwyddiadau allweddol y brifysgol megis diwrnodau agored a seremonïau graddio, a all gynnwys gweithio ar benwythnosau. 
•    Hyrwyddo cyfle cyfartal, a chefnogi a chynnal ymrwymiad y Brifysgol i amrywioldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich gwaith. 
•    Cefnogi strategaeth y brifysgol a’r cynlluniau ategol, ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn unol â gofynion y swydd, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu perthnasol er mwyn datblygu eich hunan a chefnogi datblygiad pobl eraill.   
•    Cyflawni’r cyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd, gan fynd ati’n weithredol i hybu iechyd, diogelwch a lles personol y staff a’r myfyrwyr fel aelod o gymuned Aberystwyth.   Cefnogi hefyd ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd amgylcheddol trwy arferion a chyfranogiad cyfrifol.    
Nid yw'r uchod yn rhoi rhestr gynhwysfawr o’r holl ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon. 
Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau:

Hanfodol

1.    Addysg hyd at lefel gradd neu gymhwyster cyfwerth.
2.    Profiad o weithio mewn rôl marchnata a/neu gyfathrebu, gyda phrofiad ar draws y cymysgedd marchnata llawn.
3.    Dealltwriaeth ragorol o ystod o sianeli marchnata a sut y gellir eu defnyddio'n effeithiol i gyflawni amcanion ymgyrchoedd.
4.    Profiad o ddefnyddio llwyfannau CRM a marchnata e-bost i gefnogi gweithgarwch marchnata ac ymgysylltu â chwsmeriaid.
5.    Profiad o reoli nifer o ymgyrchoedd marchnata ar yr un pryd yn llwyddiannus a chyflawni amcanion ymgyrchoedd.
6.    Profiad o ddefnyddio mewnwelediadau a data i lywio cynllunio ymgyrchoedd a gwneud penderfyniadau.
7.    Profiad o gynhyrchu adroddiadau dadansoddi ymgyrchoedd a gwneud argymhellion ar sail tystiolaeth ar gyfer gweithgarwch neu ymgyrchoedd yn y dyfodol.
8.    Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r sector addysg uwch.
9.    Gwybodaeth ragorol o becynnau TG safonol a'r gallu i addasu i ddefnyddio ystod o systemau.
10.    Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol.
11.    Sgiliau rheoli prosiect rhagorol.
12.    Sgiliau rheoli cyllideb.
13.    Sgiliau cydweithio a datrys problemau rhagorol, a'r gallu i weithio ar amrywiaeth o brosiectau ar draws timau.
14.    Parodrwydd a gallu i weithio'n hyblyg: bydd angen gweithio rhai nosweithiau a phenwythnosau.
15.    Cymraeg llafar ac ysgrifenedig ar Lefel C1*.

Dymunol

1.    Cymhwyster proffesiynol ym maes Marchnata neu Gysylltiadau Cyhoeddus (PR).
2.    Profiad o weithio mewn amgylchedd addysg uwch.
3.    Cymraeg llafar ac ysgrifenedig ar Lefel C2*.

*Gellir gweld manylion am Lefelau’r Iaith Gymraeg yma: 
https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/welsh-standards/  

Sut i wneud cais

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig. 

Rhaid defnyddio jobs.aber.ac.uk i gyflwyno cais am y swydd hon. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Buddion

•    Polisi gweithio’n hyblyg
•    Gweithio hybrid
•    36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
•    Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
•    Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
•    Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
•    Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
•    Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
•    Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal 
•    Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
•    Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws.

Parhewch i ddarllen

Yn gyffredinol, mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi gweithio hybrid, gan ganiatáu cyfuniad o weithio yn y swyddfa ac o bell ar gyfer rolau addas er mwyn gwella hyblygrwydd a chynhyrchiant. Mae disgrifiadau swydd fel arfer yn nodi'r prif leoliad gwaith ynghyd â chyfleoedd ar gyfer gweithio'n hyblyg, o bell, neu o'r cartref, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth a chymeradwyaeth y rheolwr.

Croesawn ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys y rhai sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ymgeiswyr Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig, ymgeiswyr anabl, ac ymgeiswyr benywaidd.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy'n cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ac yn ymrwymedig i Gyfle Cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i'r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu'n Saesneg, a chaiff unrhyw gais a gyflwynir ei drin yn gyfartal.

Rydym yn cydnabod y gall ymgeiswyr ddefnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial (AI) i gefnogi eu cais. Fodd bynnag, disgwyliwn i geisiadau gael eu hysgrifennu gan yr ymgeisydd ac i adlewyrchu'n gywir eu profiad, eu sgiliau a'u safbwyntiau eu hunain. Mae dilysrwydd ac onestrwydd yn hanfodol i'n proses recriwtio.

Fisa Cyflogaeth:

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).