Mae Dysgu Cymraeg Gwent am benodi Swyddog Cwricwlwm, Ansawdd ac Adnoddau Digidol a fydd yn datblygu adnoddau’r cwricwlwm ar bob lefel, yn ddigidol ac wyneb yn wyneb.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio gyda staff Dysgu Cymraeg Gwent, staff darparwyr eraill a staff y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i sicrhau bod y cwricwlwm, boed yn ddysgu digidol neu’n ddysgu wyneb yn wyneb, yn addas ar gyfer anghenion ein dysgwyr. Mae hon yn rôl newydd fydd yn gyrru’r cwricwlwm ac adnoddau ymlaen ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda staff i sicrhau bod yr addysgu a gynigir o’r safon uchaf. Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn sy am ddatblygu gyrfa ym maes Cymraeg i Oedolion.
Mae Dysgu Cymraeg Gwent a leolir yng Ngholeg Gwent ar gampws Crosskeys yn gyfrifol am holl ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion yn ardal Gwent. Darperir ystod eang iawn o gyfleoedd dysgu i ddysgwyr o lefel Mynediad hyd at lefel Gloywi gan gynnwys cyrsiau yn y gymuned, y Gweithle a’r teulu (Cymraeg yn y Cartref).
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad eang ym maes Cymraeg i Oedolion gan gynnwys profiad llwyddiannus o greu adnoddau, sicrhau ansawdd yn ogystal â phrofiad o ddysgu Cymraeg ar bob lefel. Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfathrebu’n dda, blaenoriaethu gwaith, gweithio’n annibynnol a gweithio'n dda fel rhan o dîm.
Swydd barhaol amser llawn yw hon ac fe'i lleolir yn Dysgu Cymraeg Gwent yn Crosskeys. Gweithredir polisi gweithio’n hyblyg gan Goleg Gwent.
Mewngofnodwch er mwyn ymgeisio