A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol – Cadeirydd TrC / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol – Cadeirydd TrC
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£37,500 - £50,000
Cyfeirnod:
REC01367
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
01-09-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bod yn gyfrifol am ddarparu cymorth hynod drefnus, rhagweithiol a dyfeisgar i Gadeirydd Trafnidiaeth Cymry (TrC) o ran prosiectau a materion gweinyddol, er mwyn gallu cyflawni rôl y Cadeirydd yn effeithlon ac yn llwyddiannus, ac i gefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion strategol TrC.

  • Darparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr i Gadeirydd TrC, gan gynnwys rheoli dyddiadur, trefniadau teithio, blwch derbyn a dulliau cyfathrebu ysgrifenedig eraill, yn ogystal â chydlynu cyfarfodydd ac adrodd ar gostau i gefnogi'r gwaith o gyflawni rôl y Cadeirydd yn effeithiol.

 

  • Gweithredu fel porthgeidwad a phrif bwynt cyswllt rhwng y Cadeirydd a rhanddeiliaid mewnol ac allanol i sicrhau bod amser y Cadeirydd yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon ac yn briodol.

 

  • Canfod, monitro a hwyluso'r gwaith o baratoi, golygu a phrawfddarllen gohebiaethau swyddogol y Cadeirydd, gan sicrhau eu bod yn gywir ac yn glynu wrth y dulliau llywodraethu, a delio â hynny'n brydlon.

 

  • Trin gwybodaeth gyfrinachol i sicrhau ei bod yn cael ei thrin yn ddoeth, yn broffesiynol, ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau storio data a gwybodaeth TrC.

 

  • Rhagweld anghenion a gofynion y Cadeirydd a mynd ati'n rhagweithiol i ddatrys problemau er mwyn sicrhau bod amser y Cadeirydd yn cael ei ddefnyddio mor effeithlon â phosibl.

 

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Profiad amlwg o ddangos sgiliau trefnu ac amldasgio mewn amgylchedd heriol sy’n newid.
  • Gallu darparu dyletswyddau gweinyddol proffil uchel a phroffesiynol iawn. Gallu amlwg i gynnig cymorth gweinyddol proffesiynol ac uchel ei broffil.
  • Profiad o ymgymryd â thasgau drafftio, megis prawfddarllen yn gywir a dehongli ystod o ddogfennau – gan gynnwys e-byst, papurau, adroddiadau, llythyrau, taenlenni a chyflwyniadau.
  • Defnyddio disgresiwn wrth reoli deunydd sensitif a chyfrinachol.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.