A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Cyfathrebu / Swyddle
Swydd:
Swyddog Cyfathrebu
Lleoliad:
Aberystwyth
Cyflog:
£24,500 - £28,874 y flwyddyn
Cyfeirnod:
STF 8.84
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Hybu Cig Cymru

Mae’r Swyddog Cyfathrebu yn chwarae rhan allweddol fel aelod o dîm mewnol, yn hyrwyddo gwaith HCC a’r sector cig ac amaeth yn ehangach i ystod eang o ran-ddeiliaid – y cyfryngau, pobl ddylanwadol, y gadwyn gyflenwi o ffermwyr i gogyddion a pherchnogion tai bwyta, swyddogion polisi ac academyddion.

 

Mae’r tim Cyfathrebu hefyd yn cefnogi gwaith marchnata HCC o ran hyrwyddo defnyddwyr gartref a thramor, a’i swyddogaeth datblygu diwydiant sy’n ymgysylltu â ffermwyr a phroseswyr i sicrhau effeithlonrwydd a chynaliadwyedd trwy gydol y gadwyn gyflenwi. Mae’r tim hefyd yn gyfrifol am drefnu digwyddiadau allweddol.

 

Gan adrodd i'r Rheolwr Cyfathrebu, a gweithio ochr yn ochr ag aelodau eraill o'r tîm Cyfathrebu, mae natur y swydd yn gofyn am berson â galluoedd rhagorol o ran ysgrifennu a medrau o ran cyfathrebu digidol, ynghyd â sgiliau da o ran trefnu a delio â phobl.

 

Penodiad cyfnod penodol am flwyddyn dros cyfnod mamolaeth yw hon yn y man cyntaf, ond efallai bydd cyfleodd pellach o fewn y timau cyfathrebu a marchnata yn y dyfodol.

 

Mewngofnodwch am wybodaeth bellach ac i ymgeisio