Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Teitl y swydd: Swyddog Celfyddydol Cymunedol Caerdydd a'r Fro
Math o gytundeb: Swydd tymor penodol, 12 mis
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 4: £29,409 - £31,430 y flwyddyn
Lleoliad: Gwersyll yr Urdd, Caerdydd
Dyddiad cau: 31/07/2026
Y Swydd
Prif bwrpas y swydd yw cynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc y rhanbarthau mewn cyfleoedd Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau drwy’r Urdd. Gan weithio ar sail tystiolaeth, bydd y Swyddog yn gyfrifol am gynyddu nifer yr ysgolion a cholegau addysg pellach sy’n cymryd rhan yn yr Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth, yn ogystal â denu aelodau i gymryd rhan yng ngweithgareddau celfyddydol ehangach y rhanbarthau, megis Theatr Ieuenctid, Jambori, Gigs Ieuenctid ac ati.
Am fwy o fanylion cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol ar adnoddaudynol@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org