A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Tîm Casglu Maes - Casglwr / Swyddle
Swydd:
Tîm Casglu Maes - Casglwr
Lleoliad:
Gogledd Cymru
Cyflog:
£31,096 - £33,270
Cyfeirnod:
442938
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
HMRC | CThEM
Dyddiad Cau:
17-02-2026

Crynodeb o'r swydd

Datblygwch eich gyrfa gyda CThEF. P’un a ydych chi’n chwilio am bwrpas, am gyfle i dyfu, neu am weithle sydd wir yn rhoi ymdeimlad o berthyn, gwrandewch ar rai o’n cyflogeion yn rhannu eu profiadau o weithio yn CThEF.

   

Ewch i’n sianel YouTube i wylio’r gyfres gyfan a darganfod eich potensial.

Mae arnom angen 2 Swyddog Casglu Dyledion yng Nghymru sy’n gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o Dîm Casglu ehangach.

  • Wrth benodi, byddwn yn glynu wrth y drefn deilyngdod, a hynny’n seiliedig ar leoliadau’r swyddi gwag.
  • Bydd disgwyl i chi weithio o fewn ardaloedd lleol yn ogystal ag ardaloedd sydd ymhellach i ffwrdd er mwyn gwneud y gwaith mewn lleoliadau daearyddol ar sail gofynion gweithredol.

Byddwn yn gweithio gyda chi i drefnu hyn. Gweler isod y lleoliadau daearyddol lle mae’r swyddi gwag: -

Bangor, Llandudno, Porthmadog a Wrecsam.

Byddwch yn cael yr holl gyfarpar symudol y bydd ei angen arnoch er mwyn gallu gwneud gwaith hwn unrhyw le. Mae’r cyfarpar hyn yn cynnwys gliniadur, peiriant talu â cherdyn, ffôn symudol ac argraffydd thermol.

Fel rhywun sy’n gweithio ar ei ben ei hun, byddwch hefyd yn cael dyfais Iechyd a Diogelwch.

Gan fod y rôl hon yn gofyn i chi weithio’n symudol, ac o bell, byddwch yn gymwys i wneud cais i gael eich car cwmni eich hun drwy ddefnyddio un o’n cynlluniau hyblyg.

Swydd ddisgrifiad

Dyma gyfle cyffrous i chi ymuno â Thîm Casglu Maes modern a digidol sy’n rhan o adran Rheoli Dyledion CThEF, a hynny’n canolbwyntio ar gasglu arian i ariannu gwasanaethau cyhoeddus y DU. Mae’r Tîm Casglu Maes yn gyfrifol am ddod o hyd i drethi gorddyledus, a’u casglu. Fel swyddog Casgliadau Maes dwyieithog:

  • Byddwch yn rhyngweithio ag ystod eang o bobl, gan gynnwys Cyfarwyddwyr Cwmni, Perchnogion Unigol a Phartneriaethau, er mwyn casglu’r hyn sy’n ddyledus i CThEF. Byddwch yn cofnodi eu hasedion o dan y ddeddfwriaeth ‘Cymryd Rheolaeth o Nwyddau’ yng Nghymru.
  • Byddwch yn teithio ar ben eich hun i safleoedd cwsmeriaid allanol, ac yn ymgysylltu â’r cwsmeriaid hyn wrth i chi gasglu gwybodaeth i’ch helpu i ddod i benderfyniad cytbwys. Byddwn yn rhoi cymorth i’ch helpu chi i ddatblygu yn eich rôl. Byddwch yn dilyn cwrs hyfforddiant 8-wythnos o hyd, ac yn cael cymorth parhaus gan eich cydweithwyr.

Fel Swyddog Casglu Dyledion dwyieithog, bydd gennych sgiliau penodol a fydd yn eich galluogi i wneud y canlynol:

  • Cynllunio a rheoli’ch dyddiadur ar gyfer ymweliadau wythnosol.
  • Gwneud penderfyniadau effeithiol i ddatrys achosion, gan gynnwys: -

 

Gofyn cwestiynau ynghylch arian ac asedion wrth i chi fynd ati i gymryd taliadau wrth gwsmeriaid

 

Dadansoddi systemau er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus.

Penderfynu pryd i ddechrau gweithgarwch gorfodi.

Felly, os ydych yn hoffi cwrdd â phobl wahanol, yn mwynhau teithio, ac os ydych yn berson sy’n gweithio’n galed, yn benderfynol, yn hyblyg ac â sgiliau rhyngbersonol da, ac os hoffech weithio i dîm sy’n datblygu ac yn gwella’n gyson, dyma’r swydd i chi!