Ei chenhadaeth yw bod yn brifysgol flaenllaw sy’n meithrin datblygiad deallusol a phersonol ei myfyrwyr a’i staff, darparu amgylchedd amlddiwylliannol cefnogol, hyrwyddo ehangu mynediad a chynhwysedd, a chefnogi ffyniant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru a’r gymuned ehangach.

Mae gan y brifysgol 11,000 o fyfyrwyr (1,500 ohonynt yn fyfyrwyr rhyngwladol) a thua 2,000 o aelodau staff. Ceir 23 o ysgolion academaidd wedi eu dosbarthu rhwng 5 choleg. Mae’r Brifysgol yn cynnig mwy na 450 o raglenni gradd ac mae ganddi drosiant blynyddol o dros £120 miliwn.

Saif Prifysgol Bangor mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol – rhwng mynyddoedd Eryri a glannau’r Fenai – a cheir gwasanaeth trên a ffyrdd rhagorol i fynd i Lerpwl, Manceinion, Llundain a lleoedd eraill.