Sefydlwyd CYNNAL yn 1996 gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn i ddarparu gwasanaethau addysgol cefnogol i ysgolion y ddwy sir. Erbyn heddiw, ein prif swyddogaeth yw darparu gwasanaethau cefnogi TGCh – trwy dîm o staff cefnogi SIMS, dylunwyr adnoddau, technegwyr cyfrifiadurol a thechnegwyr rhwydweithiol – i ysgolion Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Dinbych.