A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cydlynydd Gweithle / Swyddle
Swydd:
Cydlynydd Gweithle
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£27,500
Cyfeirnod:
REC01416
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
13-10-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd y Cydlynydd Gweithle yn cyflawni dyletswyddau cynnal a chadw, porthorol a gweinyddol effeithiol sy’n angenrheidiol er mwyn i’r cwmni gyflawni ei fusnes craidd ym mhob un o’r swyddfeydd.

  • Cwblhau archwiliadau a gwiriadau diogelwch ar draws holl leoliadau swyddfeydd Trafnidiaeth Cymru (ee sylweddau peryglus, diogelwch tân, gwiriadau diogelwch celfi, gwiriadau legionella ac ati) drwy weithio gyda’r tîm Diogelwch a Chynaliadwyedd i ddarparu amgylchedd diogel i’r holl gydweithwyr ac ymwelwyr.
  • Darparu gwasanaeth rhagweithiol ac adweithiol ar draws pob swyddfa trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol a chydlynu a chyflenwyr i gefnogi anghenion adeiladau a gweithgareddau gweithredol dydd i ddydd TrC.
  • Bod yn bwynt cyswllt i holl gydweithwyr TrC ac ymwelwyr â St Patrick’s House yng Nghaerdydd drwy fynd i’r safle ar sail rota i sicrhau bod presenoldeb ar y safle.
  • Rheoli contractwyr sy’n dod i holl swyddfeydd TrC drwy gynnal archwiliadau a chyhoeddi trwyddedau i weithio i sicrhau bod y contractwyr perthnasol ar y safle yn ôl yr angen.

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Profiad o reoli cyfleusterau meddal.
  • Cymhwyster IOSH (neu’n barod i gael hyfforddiant yn y 3 mis cyntaf ar ôl dechrau’r rôl).
  • Sgiliau TGCh da, gyda phrofiad o ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd Microsoft Office.
  • Sylw da i fanylion, a’r gallu i nodi ac i ddatrys problemau Iechyd a Diogelwch.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

**Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**