Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Ydych chi wedi’ch lleoli yn Rhanbarth Cymru a De-orllewin Cymru Undeb y Cerddorion ac yn meddu ar wybodaeth am y diwydiant cerddoriaeth ar lefel genedlaethol a lleol?
Oes gennych chi’r gallu i roi cyngor a chymorth i aelodau ar draws yr amrywiaeth o wasanaethau rhanbarthol sy’n cael eu darparu i aelodau Undeb y Cerddorion? Efallai mai chi yw’r person rydyn ni'n chwilio amdano i lenwi ein swydd ran-amser fel Swyddog Rhanbarthol Cymru a De-orllewin Lloegr.
Undeb y Cerddorion yw undeb llafur y DU ar gyfer cerddorion, ac mae’n cynrychioli dros 36,000 o gerddorion ledled y DU sy’n gweithio ym mhob sector o’r busnes cerddoriaeth.
Yn ogystal â negodi ar ran ein haelodau gyda holl gyflogwyr mawr y diwydiant, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i gerddorion proffesiynol a cherddorion sy’n fyfyrwyr o bob oed a chefndir.
Bydd Swyddog Rhanbarthol Cymru a De-orllewin Lloegr (rhan-amser) yn gweithio o fewn Tîm Rhanbarthol Cymru a De-orllewin Lloegr, sy’n cynnwys Trefnydd Rhanbarthol Cymru a De-orllewin Lloegr, Swyddog Rhanbarthol Cymru a De-orllewin Lloegr (llawn-amser) a’r Cynorthwyydd Gwasanaethau Rhanbarthol. Trefnydd Rhanbarthol Cymru a De-orllewin Lloegr yw’r rheolwr llinell ar gyfer y swydd.
Swydd ran-amser, barhaol, 0.6 FTE yw hon, felly gallai gyd-fynd â chyfrifoldebau neu ymrwymiadau eraill lle bo'n addas. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus a’r rheolwr llinell yn cytuno ar y dewis o ddyddiau / oriau gweithio ymlaen llaw. Mae'r swydd yn rhan o Swyddfa Cymru a De-orllewin Cymru yng Nghaerdydd, a gellir gweithio’n hybrid gartref. Bydd angen teithio o fewn y rhanbarth, sy’n golygu aros dros nos o bryd i'w gilydd, ac ambell waith y flwyddyn bydd angen teithio ledled y DU ac aros dros nos.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cyngor a chymorth cyfreithiol ar y cyd â chyfreithwyr mewnol ac allanol. Bydd ganddo lefel uchel o onestrwydd, disgresiwn a phroffesiynoldeb, a bydd yn gallu ymdrin â materion sensitif a chyfrinachol gan gynnwys anghydfodau / gwrthdaro mewn ffordd briodol. Bydd hefyd yn datblygu ac yn ymgymryd â mentrau, strategaethau a phrosiectau i recriwtio a chadw cymaint o aelodau â phosibl, a chefnogi'r diwydiant cerddoriaeth o fewn y rhanbarth.
Mae angen i’r ymgeisydd allu gweithio'n dda o fewn y tîm ac ar ei ben ei hun, a bod wedi ymrwymo i nodau ac amcanion cyffredinol mudiad yr undebau llafur hefyd.
Rydyn ni’n cynnig cyflog sylfaenol o £51,450, pro rata, ynghyd â lwfans pwysoli rhanbarthol o £3,455, pro rata, yn ogystal â buddion staff gwych gan gynnwys cyfraniad tuag at bensiwn personol, gweithio’n hyblyg a mynediad at hyfforddiant a datblygiad parhaus. Y gwyliau blynyddol ar gyfer y swydd hon yw 30 diwrnod, pro rata, ac eithrio gwyliau cyhoeddus.
Am ffurflen gais a swydd-ddisgrifiad llawn, ewch i'n gwefan:
http://musiciansunion.org.uk/about-the-mu/careers/wswe-regional-officer
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 27 Gorffennaf 2026 am 12:00 hanner dydd. Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb yn Swyddfa Cymru a De-orllewin Lloegr yng Nghaerdydd, ddydd Mercher 12 Awst 2026.
Sylwer: Dim ond drwy ddefnyddio ein Ffurflen Gais y derbynnir ceisiadau - nid ydym yn derbyn CVs/Crynodebau.
Os oes angen y cais hwn arnoch chi mewn fformat gwahanol neu os oes angen gwneud addasiadau rhesymol i'r broses recriwtio, cysylltwch â recruitment@themu.org i drafod sut gallwn ni ddiwallu eich anghenion.
Cenhadaeth Undeb y Cerddorion yw creu diwydiant cerddoriaeth teg, lle gall pob cerddor ffynnu. Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud yr un peth gyda'n gweithleoedd.
Wrth i'n haelodaeth ddod yn fwy amrywiol, rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod ein timau'n adlewyrchu ein haelodau.
Yn Undeb y Cerddorion, rydyn ni’n croesawu pobl o safbwyntiau, profiadau a chefndiroedd amrywiol. Byddwch yn cael eich annog i fod yn chi’ch hun, a bydd gennych y rhyddid i ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol mewn gweithle cefnogol a grymusol.
Gwell gwneud na dweud, felly er mwyn hyrwyddo ein diwylliant cynhwysol, rydyn ni’n buddsoddi mewn sawl menter Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Gallwch chi ddysgu mwy am ein gwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.
Rydyn ni’n annog pobl o bob rhan o'n cymuned i wneud cais am swyddi gyda ni. Rydyn ni’n croesawu ymgeiswyr o'r Mwyafrif Byd-eang ac ymgeiswyr Anabl yn arbennig oherwydd bod y cymunedau hyn wedi'u tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd.
Mae Undeb y Cerddorion yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig cyfweliad i bobl anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd hon. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn yr adran cyngor i ymgeiswyr yma.