Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Rydym yn chwilio am olygydd fideo, sydd â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd golygu 'Avid Media Composer' a Adobe Premiere Pro. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag un o brif gwmnïau teledu a chynhyrchu ffilm annibynnol y DU. Byddwch yn gweithio o fewn tîm o olygyddion talentog a deinamig ar raglenni teledu byw..
Lleoliad y Swydd: Llanelli
Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Cytundeb: I ddechrau cyfnod o 12 mis gyda phrawf o 6 mis
Dyddiad Cau: 13 Hydref 2025
Oriau Gwaith:Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos dros 5 diwrnod. Ond oherwydd natur y swydd ac oriau rhaglenni disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau:Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 13 Hydref 2025 at swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE. Fe dderbynnir ceisiadau fideo.
Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio.
Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis:Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler
http://www.tinopolis.com/privacy-notice/