A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Golygydd Fideo / Swyddle
Swydd:
Golygydd Fideo
Lleoliad:
Llanelli
Cyflog:
yn ddibynnol ar brofiad
Cyfeirnod:
202604T
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Tinopolis
Dyddiad Cau:
08-05-2026

Y SWYDD

Rydym yn chwilio am olygydd fideo talentog i ymuno â’n tîm. Byddwch yn gweithio ar draws amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys cynnwys ar gyfer darlledu a llwyfannau digidol aml-lwyfan.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyderus yn defnyddio meddalwedd golygu safon diwydiant megis Avid Media Composer a/neu Adobe Premiere Pro, ac yn meddu ar ddealltwriaeth gref o adrodd straeon yn weledol.

Byddwch yn ymuno ag un o brif gwmnïau cynhyrchu teledu a ffilm annibynnol y DU, gan weithio ochr yn ochr â thîm deinamig o olygyddion ar raglenni byw a chynnwys digidol cyflym ei dro.

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr ar wahanol gamau yn eu gyrfa, o’r rhai sydd â phrofiad cychwynnol cryf i’r rhai â phrofiad helaeth.

 

LLEOLIAD

Llanelli (Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, SA15 3YE)

 

SGILIAU ALLWEDDOL

  • Profiad o olygu fideo ar gyfer darlledu a/neu lwyfannau digidol
  • Hyfedredd mewn meddalwedd golygu safon diwydiant (e.e. Adobe Premiere Pro, Avid Media Composer, Adobe AfterEffects)
  • Barn olygyddol gref a’r gallu i lunio straeon yn weledol drwy amseru, sain a graffeg
  • Dealltwriaeth o greu cynnwys ar gyfer gwahanol lwyfannau (teledu, digidol, symudol a chyfryngau cymdeithasol)
  • Dealltwriaeth o dueddiadau cynulleidfaoedd a pha gynnwys sy’n perfformio’n dda ar wahanol lwyfannau
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gydweithio’n effeithiol gyda chynhyrchwyr, cyfarwyddwyr a thimau technegol
  • Y gallu i weithio o dan bwysau ac i gyrraedd dyddiadau cau tynn mewn amgylchedd cyflym ei symudiad
  • Ymwybyddiaeth o ganllawiau darlledu, rheolau cydymffurfio a safonau ansawdd

 

PRIF GYFRIFOLDEBAU A GOFYNION

  • Golygu cynnwys fideo ar gyfer darlledu a llwyfannau digidol
  • Addasu cynnwys ar gyfer gwahanol fformatau (e.e. ffurf fer ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a fersiynau hyd llawn ar gyfer darlledu)
  • Ymdrin ag elfennau technegol megis cymysgu sain, cywiro lliw, a chymhwyso graffeg a theitlau
  • Gweithio’n gyflym ac yn effeithlon i gwrdd â dyddiadau cau llym
  • Bod yn hyblyg o ran patrymau gwaith, gan gynnwys gweithio oriau afreolaidd yn ôl anghenion cynyrchiadau byw
  • Cydweithio ar draws adrannau a manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd (e.e. EVS)

 

MANYLION Y SWYDD

Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad

Cytundeb: Cytundeb cychwynnol o 12 mis gyda chyfnod prawf o 6 mis

Dyddiad Cau: 8 Mai 2026

 

MANYLION PELLACH

Oriau Gwaith:
Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos dros 5 diwrnod. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau:
Yn ychwanegol at wyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau’r flwyddyn.

Pensiwn:
Mae hawl gan staff cyflogedig i ymuno â chynllun pensiwn yn ddarostyngedig i delerau’r cynllun. Bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol, a disgwylir i chi gyfrannu 5%.

 

CEISIADAU

Dylid anfon ceisiadau ar ffurf llythyr cais a CV erbyn 8 Mai 2026 i:
swyddi@tinopolis.com

 

GWYBODAETH YCHWANEGOL

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU. Bydd gofyn darparu tystiolaeth ddogfennol fel rhan o’r broses recriwtio.

Wrth wneud cais, bydd angen i chi ddarparu CV. Byddwn yn cadw copi o’ch CV am hyd at dair blynedd. Os bydd swydd debyg yn codi yn ystod y cyfnod hwn, efallai y byddwn yn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol ar unrhyw adeg.

Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler:
http://www.tinopolis.com/privacy-notice/