Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae Clwb y Bont yn dymuno penodi Rheolwr Lleoliad i gyflawni a datblygu ein gweithrediadau Blaen Tŷ. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu a’r profiad i sicrhau darpariaeth effeithiol a phroffidiol o wasanaeth Bar a Lleoliad sy’n cefnogi ac yn ategu at amcanion y Clwb yn unol â’n amcanion datblygu cwsmeriaid. Dyma gyfle gwych i rywun sy’n dymuno gwneud argraff mewn un o leoliadau cerddoriaeth adnabyddus De Cymru sy’n cefnogi Cymreictod ym mhob ffurf, wedi’i leoli ym Mhontypridd.
Rheolwr Lleoliad: Manylion Contractiol
Cyflog:
£26,936 – £28,860 y flwyddyn yn dibynnu ar brofiad, yn effeithiol o 1 Ebrill 2026
Tymor:
Contract tymor penodol 12 mis
Oriau:
37 awr yr wythnos gan gynnwys gyda’r nos a phenwythnosau
Gwyliau:
20 diwrnod y flwyddyn, ynghyd â’r 8 gŵyl banc/gŵyl gyhoeddus cydnabyddedig
Cyfnod Prawf:
3 mis
Cyfnod Rhybudd:
2 fis (yn ystod y cyfnod prawf, y cyfnod rhybudd yw 2 wythnos)
Pensiwn:
Nid ydym ar hyn o bryd yn gweithredu cynllun pensiwn ond byddwn yn hwyluso mynediad i gynllun pensiwn i’r graddau y mae’r gyfraith yn mynnu.
Hawl i weithio:
Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu dogfennau yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Geirdaon:
Mae pob cynnig gwaith yn amodol ar dderbyn geirdaon boddhaol.
Dyddiad cychwyn:
Mae’r swydd ar gael ar unwaith.