Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Uwch Reolwr Busnes y Gymraeg
Rydyn ni’n adeiladu rhywbeth cyffrous yn CThEF. Mae ein Cyfarwyddiaeth Profiad y Cwsmer (CXD) newydd yn dod ag unigolion talentog at ei gilydd o bob rhan o’r sefydliad. A’r un nod sydd ganddyn nhw i gyd, sef gwella profiad ein holl gwsmeriaid.
Rydyn ni yma i ddylunio a darparu gwasanaethau symlach, mwy deallus ac sy’n cynnig mwy o gymorth er mwyn diwallu anghenion amrywiol unigolion, busnesau a chyfryngwyr ledled y DU. Rydyn ni am i bob cwsmer deimlo gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol wrth iddynt gysylltu â CThEF.
Er mwyn cyflawni hyn, rydyn ni wedi ymrwymo i wneud y canlynol:
Gyrru’r broses o arloesi a newid - mae gennym fandad cryf gan arweinwyr CThEF, a byddwn yn fentrus ac yn gadarn wrth fynd ati i wneud hyn.
Creu eglurder a chysondeb - drwy ddilyn cynllun busnes clir a hygyrch, byddwn yn nodi ein gweledigaeth ac amcanion mesuradwy.
Grymuso ein pobl - byddwn yn cynnwys ein timau’n rheolaidd wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau, gan sicrhau bod gan bawb lais.
Meithrin diwylliant lle mae pawb yn ymgysylltu - lle mae cydweithio, bwriad, a brwdfrydedd dros wasanaeth i gwsmeriaid yn ffynnu.
Os ydych yn angerddol dros wneud gwahaniaeth, ac am fod yn rhan o dîm deinamig sy’n llunio profiad cwsmeriaid CThEF yn y dyfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae CThEF yn cynnal sesiwn wybodaeth ar ddydd Mercher 8 Gorffennaf - rhwng 12:00 a 13:00 - i gyd-fynd â’r broses ymgeisio, lle byddwch yn gallu dysgu rhagor am y swydd. Byddwch hefyd yn gallu dysgu rhagor am CThEF gan y bobl sy’n cyflawni’r swydd ar hyn o bryd, gan gynnwys:
Bydd cyfle hefyd i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y swydd neu’r broses ymgeisio.
Er mwyn ymuno â’r sesiwn, bydd angen i chi gofrestru.
Swydd ddisgrifiad
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig a chryf ei gymhelliad, sy’n rhugl yn y Gymraeg, i ymuno â’n tîm Cymraeg yng Nghaerdydd.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm unigryw yn CThEF, ac i ddatblygu’ch profiad a’ch sgiliau presennol er mwyn cynhyrchu deunydd a gwasanaethau Cymraeg o’r radd flaenaf.
Bydd ymgysylltu â chwsmeriaid yn ganolog i’r swydd ac, fel rhan o hyn, dylech fod yn gyfathrebwr gwych – ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd angen i chi fod yn ddiplomyddol wrth ddelio â chydweithwyr, ac wrth drafod a chyflawni dyddiadau cau er mwyn cwblhau camau gweithredu amrywiol. A hynny gan roi ystyriaeth i adegau prysur a chymhlethdodau’r uned o ran llwyth gwaith ac anghenion ein cwsmeriaid.
Rhaid i chi fod yn rhugl yn y Gymraeg, gan y byddwch yn siarad Cymraeg gyda’ch cydweithwyr drwy’r amser, a bod yn hyblyg gan ddeall y gofynion ar dîm cymharol fach sy’n rhoi’r cwsmer wrth wraidd popeth a wnawn. Byddwch hefyd yn rheoli cydweithwyr ar y tîm, ac yn sicrhau eu bod yn bodloni safonau CThEF o ran ymddygiad, gwerthoedd ac ethig gwaith a chydweithio gyda phawb sydd ar y tîm.
Bydd y swydd dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth, ac mae disgwyl iddi bara tua blwyddyn.
Manyleb bersonol
Fel Uwch Reolwr Busnes yn yr Uned Gymraeg, bydd gennych ran allweddol i’w chwarae wrth helpu i drawsnewid ein gwasanaethau Cymraeg. Byddwch yn gwneud y canlynol:
Meini Prawf Hanfodol
Meini Prawf Dymunol
• Profiad o gadeirio a hwyluso cyfarfodydd, gan gynnwys cydlynu cyfarfodydd a digwyddiadau ar raddfa fawr.
• Dealltwriaeth o ddarpariaethau hyfforddiant Cymraeg, a’r cyfleoedd i fanteisio arnynt.
• Gwybodaeth am ddeddfwriaeth yr iaith Gymraeg a chyflawni gofynion Cynllun Iaith Gymraeg.
Ieithoedd
Sgiliau iaith rhagorol (Cymraeg a Saesneg).
Ymddygiadau
Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:
Sgiliau technegol
Byddwn yn eich asesu yn erbyn y sgiliau technegol hyn yn ystod y broses ddethol:
Buddion
Ochr yn ochr â'ch cyflog o £45,544, mae Cyllid a Thollau EF yn cyfrannu £13,194 tuag at fod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Buddion wedi'i Ddiffinio'r Gwasanaeth Sifil.
Gwnewch gais cyn 11:55 pm ar Ddydd Llun 13 Gorffennaf 2026