Swydd:
Dylunydd Profiad Defnyddwyr
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
yn ddibynnol ar brofiad £28,400 - £32,00
Cyfeirnod:
REC01184
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail

Disgrifiad swydd

Mae'r rôl hon yn gontract tymor penodol am ddwy flynedd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

Cyfrifoldebau’r swydd
 

Nod Rhaglen UNO yw creu un platfform integredig ar gyfer holl wasanaethau cyhoeddus Trafnidiaeth Cymru.

 

Mae hon yn rhaglen drawsnewid ddigidol i gefnogi cwsmeriaid a chydweithwyr i gynllunio a thalu am eu teithiau, i gynnwys rhyngwyneb digidol hawdd ei ddefnyddio (gwefan ac ap newydd) a bydd yn galluogi cwsmeriaid i gynllunio teithiau, prynu tocynnau, a chael mynediad at wybodaeth amser ‘real’ ar gyfer mathau lluosog o drafnidiaeth. Bydd hyn yn gynhwysol ac yn cynnwys cymorth i'r rhai na allant ddefnyddio rhyngwynebau digidol.

 

Drwy symleiddio sawl ffordd yr ydym yn teithio drwy ddarparu profiad cwsmer di-dor, rhagwelir y bydd UNO yn cynyddu teithiau cynaliadwy, yn cynhyrchu refeniw, ac yn sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd sylweddol i Gymru.

 

 

Datblygu a dylunio Profiad Defnyddwyr a Rhyngwyneb Defnyddwyr ystâd ddigidol Trafnidiaeth Cymru (TrC) er mwyn sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn darparu profiad defnyddwyr gonest, defnyddiol, naturiol ac atyniadol, ac yn cyfathrebu â nhw mewn ffordd effeithiol.

 

  • Casglu a gwerthuso gofynion defnyddwyr a dangos syniadau dylunio ar gyfer y brand gan ddefnyddio byrddau darlunio, llif prosesau a mapiau safle er mwyn darparu profiad gonest, defnyddiol, naturiol ac atyniadol i ddefnyddwyr, a fydd yn symbylu ac yn dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr.
  • Dylunio elfennau graffig/rhyngwyneb defnyddwyr, fel dewislenni, tabiau a theclynnau drwy alinio â chanllawiau/safonau brand i greu profiad gonest, defnyddiol, naturiol ac atyniadol i ddefnyddwyr.
  • Creu dyluniadau Profiad Defnyddwyr a theithiau defnyddwyr sy’n cydymffurfio â safonau hygyrchedd a safonau eraill, canllawiau brand a pholisïau ar gyfer ystâd ddigidol Trafnidiaeth Cymru er mwyn darparu profiad gonest, naturiol, defnyddiol ac atyniadol i ddefnyddwyr a symbylu/dylanwadu ar ymddygiad.
  • Creu fframiau gwifren/dyluniadau sgrin, modelau ffug, prototeipiau, mapiau teithiau defnyddwyr, asedau a manylebau manwl drwy weithio i friffau, deall a dehongli gofynion i greu profiad gonest, defnyddiol, naturiol ac atyniadol i ddefnyddwyr.

 

 

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Profiad amlwg o ddylunio ar gyfer sianeli digidol, symudol a’r we, gyda dealltwriaeth o egwyddorion dylunio rhyngwyneb defnyddwyr a phrofiad defnyddwyr.
  • Gwybodaeth gyfredol a hyfedredd gydag offer y diwydiant fel Figma, Invision, Sketch ac Adobe gan gynnwys XD, Illustrator a Photoshop i ddarparu dyluniadau o ansawdd uchel.
  • Profiad o ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol mewn amgylchedd cymhleth.
  • Profiad o ymgysylltu ag asiantaethau, darparwyr TGCh a chyflenwyr trydydd parti eraill.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

**Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**