Swydd:
Swyddog Hyrwyddo Gwersylloedd yr Urdd
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£31,745 - £35,365 y flwyddyn
Cyfeirnod:
SHGYU
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( 12 mis )
Cleient:
Urdd Gobaith Cymru
Dyddiad Cau:
31-07-2026

Teitl y swydd:  Swyddog Hyrwyddo Gwersylloedd yr Urdd

Math o gytundeb:  Swydd tymor penodol, 12 mis yn y lle cyntaf

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  Gweithredol 5: £31,745 - £35,365 y flwyddyn

Lleoliad:  Gwersyll yr Urdd, Caerdydd

Dyddiad cau:  31/07/2026

 

Y swydd

Dyma gyfle cyffrous i chwarae rôl allweddol yn cysylltu ysgolion, colegau a chymunedau â phrofiadau bythgofiadwy yng ngwersylloedd yr Urdd (Caerdydd, Glan-llyn, Llangrannog a Phentre’ Ifan).

Am fwy o fanylion cysylltwch â Elinor Dafydd (Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Materion Cyhoeddus) ar elinordafydd@urdd.org 

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org