A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Gyrrwr Trên dan Hyfforddiant - Caer / Swyddle
Swydd:
Gyrrwr Trên dan Hyfforddiant - Caer
Lleoliad:
Caer
Cyflog:
£40,088 iyn codi i £73,430 ar ôl cymhwyso
Cyfeirnod:
REC002843
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
19-10-2025

Disgrifiad Swydd

** Os ydych chi wedi bod drwy’r broses gyfweld neu asesu ar gyfer rôl Gyrrwr Trên dan Hyfforddiant (mewn unrhyw leoliad) yn ystod y chwe mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio os gwelwch yn dda, oherwydd, yn anffodus, ni fyddwn yn ystyried eich cais**

 

** Cofiwch rydyn ni’n disgwyl ymateb uchel i'r hysbyseb hwn, felly mae Trafnidiaeth Cymru yn cadw’r hawl i gau’r hysbyseb pan fyddwn wedi cael digon o geisiadau. Felly, rydyn ni’n eich cynghori i gyflwyno eich cais yn gynnar gan mae’n bosibl y bydd yr hysbyseb hwn yn cael ei gau yn gynnar.**

 

Dod yn Yrrwr Trên:


Nid oes angen profiad blaenorol ar gyfer y rôl, gan y bydd ein Rhaglen Academi Gyrwyr dan Hyfforddiant yn eich paratoi’n llawn ar gyfer bywyd ar y Rhwydwaith. Y peth pwysig yw eich bod yn frwdfrydig, yn broffesiynol ac yn llawn cymhelliant i ddysgu, ac yn deall pwysigrwydd diogelwch, perfformiad a gwasanaeth i gwsmeriaid.

 

Ar ôl cael eich penodi i rôl Gyrrwr dan Hyfforddiant, byddwch yn cael eich cofrestru ar gyfer y Brentisiaeth Gyrrwr – y cyntaf o’i math yng Nghymru – a fydd yn arwain at gymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol ym maes gweithrediadau gyrru trên. 

 

Mae rôl gyrrwr trên yn rôl fedrus iawn, ac rydyn ni’n darparu rhaglen hyfforddiant helaeth i bob Gyrrwr Trên dan Hyfforddiant.  Yn ystod 11 wythnos gyntaf ein rhaglen brentisiaeth, byddwch yn cael eich dysgu am theori gyrru trên yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys cael cyfle i ddefnyddio popeth rydych chi wedi’i ddysgu ar ein hefelychwyr trenau newydd o’r radd flaenaf.  Byddwch wedyn yn treulio tua 24 wythnos gyda hyfforddwr profiadol ar ein Rhwydwaith.

 

Ar ddiwedd y cyfnod hyfforddi, bydd un o Reolwyr ein Tîm Gyrwyr yn eich asesu ym mhob agwedd ar y rôl.

 

Gallai hyn fod yn ddechrau gyrfa wych ar y Rheilffordd, gan gynnig y cyfle i ddatblygu eich gyrfa mewn sawl ffordd wahanol.

 

Er mai chi fyddai’n llwyr gyfrifol am yrru’r trên, byddwch hefyd yn rhan o dîm ehangach integredig, gan weithio â rhannau eraill o’r busnes i ddarparu’r gwasanaeth gorau i’n cwsmeriaid.

 

Cyfrifoldebau’r rôl:


Bydd ein tîm hyfforddi yn eich paratoi ar gyfer holl gyfrifoldebau’r rôl, a fydd yn cynnwys y canlynol:

  • Symud trenau rhwng ein gorsafoedd a depos amrywiol yn ddiogel  
  • Dysgu a deall rheolau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, rheoliadau a chyfarwyddiadau 
  • Ymateb i sefyllfaoedd y tu allan i gyrsiau wrth iddynt godi, a dilyn gweithdrefnau argyfwng yn unol â’r rheolau a’r rheoliadau 
  • Cydymffurfio â'r 'Datganiad Cyfrifoldeb Diogelwch Gyrwyr 
  • Cwblhau adroddiadau ysgrifenedig a llafar
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant parhaus fel y bo angen

 

Er mwyn bod yn llwyddiannus yn yr hyfforddiant hwn, rydyn ni’n chwilio am bobl sydd:

  • Yn deall pwysigrwydd rheolau, rheoliadau a chyfarwyddiadau llym 
  • Bob amser yn ymwybodol iawn o ddiogelwch
  • Yn wydn ac yn ddyfeisgar
  • Yn gallu canolbwyntio am gyfnodau hir
  • Yn gallu cadw eu pen ac yn gallu aros yn bwyllog ac yn gyfrifol 
  • Wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid
  • Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol 

Gofynion hanfodol ar gyfer y rôl:

  • Mae’n rhaid i chi fyw o fewn awr i’r depo o’ch dewis
  • Mae’n rhaid i chi fod yn 21 oed neu hŷn am resymau cyfreithiol (derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n 20 oed, ond ni fyddwch yn gallu dechrau gweithio shifftiau nes byddwch yn 21 oed) 
  • Mae’n rhaid i chi allu gweithio yn ôl patrwm shifftiau sy’n amrywio. Rydyn ni'n gweithio 24 awr y dydd, felly bydd hyn yn cynnwys shifftiau nos a boreau cynnar.
  • Bydd yn rhaid i chi gael archwiliad meddygol a fydd yn cynnwys prawf Cyffuriau ac Alcohol
  • Mae’n rhaid i chi allu darparu lefel uchel o ymrwymiad, gan gydbwyso a chyflawni'r gofynion o ran hyfforddiant a rôl newydd ar yr un pryd

Gofynion dymunol ar gyfer y rôl:

  • Sgiliau hanfodol Lefel 2 mewn Mathemateg, Saesneg a TG neu gymhwyster cyfatebol fel gradd A-C mewn TGAU Mathemateg, Saesneg a TG, neu fel arall bydd angen i chi gwblhau’r cymhwyster Sgiliau Hanfodol yn ystod yr hyfforddiant er mwyn cyflawni gofynion y Cynllun Prentisiaeth.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog unigolion o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli i ymuno er mwyn i ni allu sicrhau gweithlu sy’n cynrychioli ein cymunedau.

 

Manteision ymuno â ni

  • Wythnos waith 35 awr dros wythnos o 4 diwrnod
  • 28 diwrnod o wyliau
  • Teithio am ddim ar wasanaethau TrC i chi a theithio hamdden am ddim i’ch dibynyddion
  • Gostyngiad o 75% ar Wasanaethau Trên eraill i chi a'ch dibynyddion
  • Cynllun pensiwn gyda chyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (AVC)
  • Cynlluniau ildio cyflog (beicio i’r gwaith, cynllun ceir trydan)
  • Buddion gostyngol i chi a’ch teulu (Reward Gateway)

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd camau nesaf y broses yn cynnwys y canlynol:

  • Asesiadau Gyrwyr ar draws y diwydiant a fydd yn cael eu cynnal yn ein Canolfan Asesu yng Nghaerdydd
  • Cyfweliad gweithredol
  • Archwiliad meddygol llawn yn unol â Safon y Diwydiant Rheilffyrdd (RIS-3789-TOM Gyrwyr Trenau) a Rheoliadau Tystysgrifau a Thrwyddedau Gyrru Trenau 2010

Cynnig gwaith:


Os byddwch yn llwyddiannus yn dilyn y broses recriwtio, byddwch yn cael eich cadw yn ein ‘Cronfa Dalent’ am hyd at 5 flynedd o ddyddiad eich asesiad papur nes bydd cwrs hyfforddi ar gael. Os na fyddwch yn cael eich neilltuo i gwrs ar ôl y cyfnod hwn, bydd angen i chi ailymgeisio a chwblhau’r broses eto.

Ar ôl cadarnhau dyddiad dechrau, bydd yn rhaid i chi fynd i apwyntiad meddygol a chael archwiliadau cefndir a geirdaon sylfaenol. Mae pob cynnig o waith yn amodol ar archwiliadau meddygol a chefndir boddhaol a chyfnod prawf boddhaol o 10 mis.

Pob lwc â’ch cais.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed oddi wrthych!