Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Noder cyn bwrw ymlaen, os ydych chi wedi bod trwy'r broses asesu neu gyfweld ar gyfer rôl Tocynnwr Trên Hyfforddai (mewn unrhyw leoliad) o fewn y chwe mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, mae'n ddrwg gennym ddweud na fyddwn yn ailystyried eich cais, felly peidiwch ag ailymgeisio nes bod y cyfnod o chwe mis wedi mynd heibio.
Sylwch, cyn bwrw ymlaen, os ydych chi wedi bod drwy’r broses asesu neu gyfweld ar gyfer rôl Goruchwyliwr dan Hyfforddiant (mewn unrhyw leoliad) yn ystod y chwe mis diwethaf ac nad oeddech yn llwyddiannus, mae’n ddrwg gennym ddweud na fyddwn yn ailystyried eich cais, felly peidiwch â gwneud cais arall nes bod y cyfnod chwe mis wedi pasio.
Ar hyn o bryd, ni fydd yr hysbyseb hon yn effeithio ar eich cais. Peidiwch â gwneud cais arall. Dylech ddim ond gwneud cais am un depo. Os ydych chi o fewn pellter teithio synhwyrol i fwy nag un depo, gellir trafod hyn yn y cyfweliad.
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Pwy ydyn ni
Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.
Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.
Fel Goruchwyliwr byddwch yn gyfrifol am ddiogelwch ein teithwyr ac amgylchedd y trên, gan roi gwasanaeth eithriadol i gwsmeriaid. Gallai hwn fod yn ddechrau ar yrfa wych a chyffrous, gan gynnig cyfoeth o gyfleoedd dysgu a datblygu. Nid oes angen profiad rheilffyrdd blaenorol ar gyfer y rôl oherwydd bydd ein rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr yn eich paratoi ar gyfer unrhyw beth y gallech chi ei wynebu.
Cyfrifoldebau:
Cyfrifoldebau’r swydd
Am bwy rydyn ni’n chwilio
Sgiliau Iaith Gymraeg
Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol
Y camau nesaf
A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.
Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.