A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | TfW Ffeibr - Rheolwr Cysylltedd Busnes a Gwasanaethau Gwerthu / Swyddle
Swydd:
TfW Ffeibr - Rheolwr Cysylltedd Busnes a Gwasanaethau Gwerthu
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£40k basic /£70k OTE
Cyfeirnod:
REC01503
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
18-01-2026

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal


Mae TfW Ffeibr yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

 

Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni


Datrysiadau cysylltedd ffeibr llawn arloesol mewn ardaloedd ar hyd Llinellau Craidd y Cymoedd, gan ddarparu datrysiadau capasiti lled band mawr a fydd yn gwella mynediad I ardaloedd anodd eu cyrraedd.


Drwy bartneriaethau â darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd a gweithredwyr symudol, gallwn helpu ein cwsmeriaid i gael y gwasanaethau band eang a symudol y mae cymaint o weddill y wlad yn eu mwynhau.


Cyfrifoldebau’r swydd

 

Bydd y Rheolwr Cysylltedd Busnes a Gwasanaethau yn gyfrifol am gymhwyso a chwblhau gwerthiannau mewn ardaloedd allweddol yn ne Cymru a'r Cymoedd Craidd. Mae hon yn rôl cario cwotâu gyda chwmpas sylweddol i ragori.


• Mynd ati'n rhagweithiol i greu cyfleoedd gwasanaethau a chysylltedd busnes newydd, yn bennaf drwy weithgareddau gwerthu yn y maes, wedi eu hategu gan delewerthu o bryd i'w gilydd ac allgymorth drwy e-bost.
• Adeiladu a rheoli llif o gwsmeriaid busnesau bach a chanolig a busnesau canol y farchnad.
• Cynnal sgyrsiau gwerthu ymgynghorol i ddeall anghenion cwsmeriaid a chynnig atebion busnes a chysylltedd wedi eu teilwra.
• Negodi a chwblhau cytundebau i gyrraedd a rhagori ar dargedau gwerthu.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio


• Hanes llwyddiannus o ragori'n gyson ar dargedau gwerthu mewn amgylchedd busnes Telegyfathrebu.
• Profiad o ddatblygu busnes neu werthu yn y maes yng Nghymru a'r gororau, yn ddelfrydol mewn busnesau bach a chanolig neu segmentau canol y farchnad.
• Rydym yn ffafrio cefndir mewn telegyfathrebu ac atebion cysylltiedig.
• Sgiliau cyfathrebu, negodi a meithrin perthynas rhagorol.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg


Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.


Mae TrC Ffeibr yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol.

 

Y camau nesaf


A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.


Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.