Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Teitl y swydd - Cynghorydd Cadwyni Cyflenwi
Yn atebol i’r canlynol - Rheolwr y Tîm Cynghori ar Ddatblygu Busnes
Is-adran - Y Gwasanaeth Datblygu Busnes a Thwf
Lleoliad - Gweithiwr Gartref Rheolaidd
Mae Gwasanaeth Datblygu Busnes a Thwf, Busnes Cymru yn canolbwyntio ar roi cyngor eang i fusnesau sy’n ehangu. Gwneir hyn trwy gyfrwng gwahanol ddulliau, yn cynnwys cymorth digidol, cymorth dros y ffôn a chymorth wyneb yn wyneb.
Y Rôl
Cynorthwyo Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru i ganfod a chyrchu cyfleoedd caffael trwy gyfrwng y gweithgareddau canlynol:
Y Cyfrifoldebau
1. Rhoi cymorth a chyngor caffael arbenigol un-i-un i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru, naill ai’n ddigidol neu wyneb yn wyneb.
2. Hwyluso a chyflwyno amrywiaeth o weithgareddau un-i-nifer, yn cynnwys gweminarau, gweithdai, seminarau a chyflwyniadau.
3. Ymgymryd â’r holl weithgareddau mewn modd proffesiynol, hyddysg a chyson, gan ddefnyddio deunyddiau ac adnoddau y cytunwyd arnynt.
4. Cynnal dealltwriaeth fanwl o dirlun caffael Cymru, gan ymgysylltu’n effeithiol â phrynwyr yn lleol ac yn genedlaethol er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth, sicrhau rhwydweithiau atgyfeirio a chefnogi gweithgarwch.
5. Cynnal gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol o gyfraith caffael, polisïau Llywodraeth Cymru a themâu hollbwysig sy’n dylanwadu ar dirlun caffael Cymru.
6. Mynychu digwyddiadau ymgysylltu a rhwydweithio busnes er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth ymhlith darpar gleientiaid a rhanddeiliaid.
7. Cynnal gwybodaeth am ddatblygiadau lleol, cenedlaethol a sector-benodol, tueddiadau busnes ehangach, ac arferion da yn y maes arbenigol.
8. Datblygu a chynnal dealltwriaeth o dirlun buddsoddi Cymru, gan bennu cyfleoedd newydd a datblygol ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid i ategu gweithgarwch gwasanaethau.
9. Creu a datblygu cynnwys digidol arbenigol, megis tiwtorialau fideo, a sicrhau bod yr holl adnoddau digidol cysylltiedig yn gyfredol (e.e. taflenni ffeithiau a chynnwys trydydd parti a ddefnyddir ar gyfer cyfeirio).
10. Gweithio ar y cyd â’r tîm rheoli i ddatblygu cynnwys a gweithgareddau arloesol, a chyfrannu at gyflwyno DPP i gydweithwyr ledled y gwasanaeth ehangach.
11. Defnyddio adnoddau diagnostig cymeradwy ar gyfer asesu anghenion busnes cleientiaid, pennu rhwystrau sy’n atal datblygiad a thwf, a sicrhau bod cofnodion cleientiaid yn cael eu diweddaru o fewn amserlenni penodedig.
12. Cynnal cofnodion manwl gywir o’r holl weithgareddau a sicrhau y cwblheir gwaith dilynol mewn modd amserol.
13. Ymgymryd â dysgu cytunedig er mwyn cynnal DPP a rhannu gwybodaeth yn rhagweithiol i ategu ymgysylltiad, cyrhaeddiad, a darpariaeth gwasanaethau, yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr Cyflawni a Rheolwr y Tîm Cynghori ar Ddatblygu Busnes.
14. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â chais rhesymol y Tîm Uwch-reolwyr.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth:
Diffiniad eang o gyfrifoldebau’r swydd a nodir uchod. Nid ystyrir pob agwedd ar y gwaith y gall fod angen i ddeiliad y swydd ei gyflawni. Mae hyblygrwydd yn hanfodol, oherwydd bydd oriau gwaith deiliad y swydd yn cael eu pennu gan ofynion y busnes.
Contract dros dro yw hwn tan 31 Mawrth 2027