A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Rhaglen Datblygu Strategol / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Rhaglen Datblygu Strategol
Lleoliad:
Pontypridd, Wrecsam
Cyflog:
Hyd at £63,000 Yn dibynnu ar brofiad
Cyfeirnod:
REC01383
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
17-09-2025

Disgrifiad Swydd

Bydd gofyn i chi deithio i safleoedd prosiectau Awdurdodau Lleol penodol yng Nghanolbarth Cymru.

Lleoliad: Pontypridd neu Wrecsam (opsiynau gweithio hybrid ar gael)

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd y rôl hon yn darparu goruchwyliaeth ac arweinyddiaeth wrth i ni weithio i gyflwyno Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn ac Un Tîm yn ein gwaith a'n rhaglenni ledled Canolbarth Cymru.

 

  • Arwain, cefnogi a datblygu portffolio o brosiectau trafnidiaeth rhanbarthol cam cynnar drwy fynd ati i ymgysylltu a rheoli’r heriau rhanbarthol lleol, yr ardaloedd daearyddol a’r aeddfedrwydd trafnidiaeth i ddatblygu cefnogaeth i achosion busnes strwythur trafnidiaeth.

 

  • Arwain a dylanwadu’n effeithiol, gan ddod â’r canlyniadau strategol allweddol ar gyfer integreiddio trafnidiaeth aml-ddull yn y rhanbarth at ei gilydd drwy weithio gyda grwpiau rhanddeiliaid rhanbarthol i gefnogi’r gwaith o weithredu’r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol a gwaith y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu saernïaeth system TrC drwy weithio gyda thimau technegol amrywiol ar draws y sefydliad i sicrhau bod y seilwaith priodol yn ei le i gyflawni amcanion strategol TrC.

 

  • Darparu cynigion a pholisïau trafnidiaeth credadwy drwy gasglu gwybodaeth ac arloesedd, defnyddio dealltwriaeth o’r dirwedd wleidyddol, a chanfod heriau posibl drwy ddefnyddio rhwydweithiau a gwybodaeth o'r diwydiant, yr agenda drafnidiaeth gyfredol a rhwydweithiau gwleidyddol i gynghori cydweithwyr yn TrC ar bolisïau trafnidiaeth allweddol.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Cymhwyster lefel gradd mewn cynllunio trafnidiaeth, rheoli busnes, peirianneg, gwyddoniaeth, disgyblaeth berthnasol arall, neu brofiad cyfatebol.
  • Aelod siartredig o ddisgyblaeth broffesiynol berthnasol neu’n gweithio tuag at siarteriaeth ar hyn o bryd.
  • Profiad amlwg o weithio ar amrywiaeth o brosiectau trafnidiaeth fel Rheolwr Rhaglen.
  • Profiad o weithredu Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, Model Pum Achos Gwell Achosion Busnes, ac Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG), mewn perthynas â phrosiectau trafnidiaeth.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**