A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Gweithredwr Glanhau Gorsafoedd / Swyddle
Swydd:
Gweithredwr Glanhau Gorsafoedd
Lleoliad:
Caer
Cyflog:
£30,159
Cyfeirnod:
REC002724
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
29-08-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

 

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Gweithredwr Amgylcheddol yr Orsaf (SEO).

 

Bydd Gweithredwr Amgylcheddol yr Orsaf yn gyfrifol am ddarparu amgylchedd glân a chroesawgar i’n holl gwsmeriaid yn ein gorsafoedd. Bydd hefyd yn darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid drwy helpu ein cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau.

 

Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill: 

 

  • Cadw ein gorsafoedd yn lân ac yn daclus bob amser, cyflawni dyletswyddau glanhau cyffredinol gan gynnwys sgubo/mopio’r lloriau, glanhau’r toiledau, codi sbwriel a gwagio’r biniau
  • Cyflawni mân dasgau cynnal a chadw o amgylch yr orsaf pan fo angen, gan gynnwys peintio, gosod/newid cyfarpar sydd wedi’i ddifrodi a dyletswyddau garddio cyffredinol
  • Helpu ein cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau a darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid
  • Cadw at gyfrifoldebau a rheoliadau iechyd a diogelwch
  • Gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm ac yn annibynnol

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

 

  • Profiad blaenorol o lanhau
  • Sgiliau trefnu ardderchog
  • Gallu darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm
  • Gallu cyflawni tasgau codi a chario
  • Trwydded Yrru y DU
  • Mae gwybodaeth am COSHH yn ddymunol

 

Fel cwmni trenau, rydyn ni yno i’n cwsmeriaid pryd bynnag y bydd angen iddyn nhw deithio – mae hyn yn golygu y byddwch chi’n fodlon gweithio amrywiaeth o shifftiau, gan gynnwys nosweithiau, gwyliau banc a phenwythnosau.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

 

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

 

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.