A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Comisiynydd Chwaraeon / Swyddle
Swydd:
Comisiynydd Chwaraeon
Lleoliad:
Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin
Cyflog:
Cyflog cystadleuol - dim llai na £70,000
Cyfeirnod:
s4c12626
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
06-07-2026

Comisiynydd Chwaraeon

Pam ymuno ag S4C?

Mae S4C yn ddarlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus Am Ddim yn y DU. Rydym yn darlledu 7 diwrnod yr wythnos yn y Gymraeg ac mae chwaraeon yn rhan bwysig o'r amserlen gyda dros 550 awr yn cael eu dangos bob blwyddyn.

Yn S4C, rydym yn angerddol dros greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar dy orau; Balch o S4C; Dathlu Pawb; Cer amdani

Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â'n tîm wrth i ni gyflwyno ein strategaeth cynnwys aml-blatfform newydd. Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig, creadigol a brwdfrydig sydd â diddordeb brwd mewn darlledu chwaraeon i ymuno â'n tîm o Gomisiynwyr. Mae'n rôl heriol, sy'n cyffwrdd â bron pob agwedd ar ddarlledu  chwaraeon ac mae pob diwrnod yn wahanol. 

Trosolwg o'r Swydd

Chwaraeon yw un o gonglfeini cynnwys S4C ar bob platfform a dyma gyfle cyffrous ymuno gyda’r tîm comisiynu gan arwain ar negydu a sicrhau hawliau chwaraeon o bob math gan gyfrannu at ymestyn at y gynulleidfa led led Cymru. Fel aelod o’r tîm comisiynu, byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Cynnwys i greu a goruchwylio strategaeth cyhoeddi cynnwys chwaraeon aml-blatfform ar gyfer S4C, gan gyfrannu'n sylweddol at gyflawni ein strategaeth gynnwys.

Byddwch yn cyflwyno ac yn comisiynu ystod eang o gynnwys chwaraeon byw gan gyflenwyr. Byddwch yn cydbwyso rhagoriaeth olygyddol â'r holl ofynion cydymffurfio a chyllidebol, gan sicrhau bod y cynnwys a gomisiynwyd yn cyd-fynd yn strategol â gweledigaeth S4C. 

Byddwch yn gyswllt allweddol ac adeiladol â'r sector cynhyrchu annibynnol a darlledwyr eraill, gan gydweithio i nodi cyfleoedd i ehangu darpariaeth chwaraeon S4C, gan dargedu cynulleidfaoedd sy'n defnyddio'r cynnwys hwnnw mewn nifer o fformatau a gwahanol blatfformau cyhoeddi. Byddwch yn gyfrifol am drafod a sicrhau hawliau chwaraeon i ddarlledu a chyd-ddarlledu ystod eang o chwaraeon byw o'r llwyfan rhyngwladol i chwaraeon ar lawr gwlad ar S4C. 

Bydd eich cyfraniad a'ch dylanwad fel arweinydd yn hollbwysig wrth i S4C drawsnewid yn gyhoeddwr cynnwys aml-blatfform.  

Manylion eraill

Lleoliad:  Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 3 ddiwrnod yn y swyddfa)

Cyflog: Cyflog cystadleuol yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad.  Bydd y cyflog dim llai na £70,000 y flwyddyn.  Mae croeso i chi gysylltu â thîm Pobl a Diwylliant ar pobl@s4c.cymru am rhagor o fanylion am amodau a thelerau’r swydd.

Cytundeb:  4 blwyddyn yn y lle cyntaf

Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Cyfnod prawf: 3 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Teithio: Bydd teithio rhwng swyddfeydd, ar ymweliadau ac i ddigwyddiadau yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 y bore, Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2026 at pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

O ystyried natur y rôl hon, rydym yn ymwybodol o ddigwyddiadau mawr y calendr chwaraeon dros y misoedd nesaf. Felly, ein bwriad ar hyn o bryd yw cyrraedd rhestr fer yn fuan ar ôl y dyddiad cau, gyda cyfweliadau wedi’u cynllunio ar gyfer canol mis Gorffennaf, ac rydym yn annog ceisiadau cynnar. Fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r unigolyn cywir ar gyfer y rôl ac mae’n bosibl y bydd angen addasu’r amserlen os bydd angen.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.