Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae bod yn rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Pam ymuno â S4C?
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd: Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Rydyn ni’n chwilio am unigolyn cydweithredol, rhagweithiol ac egnïol i helpu gyrru newid go iawn ar draws y sector darlledu Cymraeg. Byddwch yn drefnus, dadansoddol ac addasadwy, gan weithio’n agos gyda thimau a phartneriaid i wella monitro amrywiaeth a chael effaith wirioneddol. Os ydych chi’n frwdfrydig, ymroddedig ac yn angerddol dros ddiwylliant Cymru, dyma’ch cyfle i siapio dyfodol cynhwysol y cyfryngau!
Trosolwg y Swydd
Fel Cydlynydd Pwrpas Cymdeithasol, byddwch yn cydlynu prosiect sy’n cryfhau gwaith S4C ar amrywiaeth a chynhwysiant - o gasglu a dadansoddi data i ddatblygu ymgyrchoedd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd y gwaith yn cynnwys gweithio’n agos iawn gyda rhanddeiliaid a phartneriaid dros y sector cynhyrchu, yn ogystal ag adrannau dros S4C i greu newid cadarnhaol, sicrhau cynrychiolaeth decach ar y sgrîn ac o fewn y sector, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n pwrpas cymdeithasol.
Mae’r tîm yn rhagweithiol ac yn creu newid mewn ffordd bositif a chydweithredol er mwyn i S4C gyflawni ei bwrpas cymdeithasol. Drwy amryw o weithgareddau mae S4C yn darparu cynnwys beiddgar ac arloesol sy’n dathlu’n diwylliant cyfoes Cymru.
Manylion eraill
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa)
Cyflog: £39,000 y flwyddyn
Cytundeb: 12 mis. Byddwn yn hapus i ystyried Secondiad.
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%. Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Mawrth 14 Hydref 2025 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Dyddiad Cyfweliadau: Wythnos 20 Hydref 2025. Rydym yn chwilio am rywun a all ymuno â’n tîm a dechrau ar unwaith (neu cyn gynted â phosibl). Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.