Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Arweinydd Tîm
Cyfle Cyfartal
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.
Cyflwyniad
Rôl Arweinydd y Tîm yw bod yn gyfrifol am Dîm Glanhau i sicrhau bod y gwaith glanhau lleol yn dilyn y canllawiau a’r arferion gorau, gan ddarparu profiad da i gwsmeriaid.
Cyfrifoldebau’r swydd
Yn absenoldeb Rheolwr y Safle, bydd deiliad y swydd hon yn gyfrifol am dîm glanhau dynodedig safle drwy reoli a chydlynu ac am Weithwyr Glanhau ar y safle, yn sicrhau dull gweithredu cyson a gwasanaeth sy’n bodloni disgwyliadau ac sy’n ceisio rhagori arnynt.
Rhoi gwybodaeth reoli drwy gasglu data ar draws cyfrif trenau, archwiliadau a gwybodaeth stoc i sicrhau bod TrC yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth lanhau.
Cydlynu gweithgareddau gweithredol y timau drwy fod yn atebol am drefnu’r rotas glanhau a chynnal archwiliadau i sicrhau bod y safleoedd yn rhedeg yn effeithiol ac yn darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid.
Hanfodol:
Pwy ydym ni
Trafnidiaeth Cymru (TrC) yw’r cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein nod yw ‘Cadw Cymru i Symud’ drwy ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid, rhoi cyngor arbenigol a buddsoddi mewn seilwaith.
Sgiliau Cymraeg
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.