Swydd:
Swyddog Ystadegol Uwch
Rydym ni’n chwilio am Swyddog Ystadegol Uwch sy’n arweinydd dadansoddol ac yn mwynhau troi data cymhleth yn fewnwelediad ystyrlon sy’n cefnogi penderfyniadau gwell ar draws Estyn. Byddwch yn dod â medrusrwydd technegol cryf, ymagwedd ofalus a threfnus at ansawdd data, a meddylfryd gydweithredol sy’n helpu pobl eraill i ddeall a defnyddio tystiolaeth â hyder. Mae’r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy’n gwerthfawrogi eglurder, trylwyredd ac arloesedd, yn enwedig o ran sut caiff data ei reoli, ei ddadansoddi a’i gyfleu.
Byddwch chi’n arwain swyddogaeth ystadegol Estyn, gan sicrhau cyflawni dadansoddi data amserol a threiddgar, o ansawdd uchel, sy’n cefnogi amcanion strategol a rhaglenni arolygu. Byddwch chi’n goruchwylio casglu, dadansoddi a chyflwyno data trwy offer fel SQL a Power BI, gan sicrhau bod allbynnau’n gadarn, yn hygyrch ac yn cyd-fynd ag anghenion rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Byddwch chi’n darparu tystiolaeth ystadegol ymddiriedus sy’n llywio’r penderfyniadau a wnawn, yn gwella effaith gwaith ymchwil ac arolygu, ac yn gyrru gwelliant parhaus mewn arfer ddadansoddol ar draws y sefydliad.
Mae tasgau allweddol yn cynnwys:
- Arwain ar brosesau echdynnu data, trawsnewid a sicrhau ansawdd gan ddefnyddio SQL a thechnegau codio dadansoddol eraill.
- Gweithio’n rhagweithiol gyda Llywodraeth Cymru, Medr a chyflenwyr a defnyddwyr data eraill i nodi a chael mynediad at setiau data perthnasol, gan sicrhau defnydd moesegol a chydymffurfio â safonau llywodraethu.
- Cydweithio â’r Uwch Swyddog Ymchwil i sicrhau bod tystiolaeth ystadegol yn ychwanegu at ganfyddiadau ansoddol ac yn cefnogi astudiaethau dulliau cymysg.
- Hyrwyddo ac ymgorffori arferion rheoli data cadarn ar draws y tîm.
- Arwain dadansoddi ystadegol cymhleth i ddiwallu anghenion rhanddeiliaid, cymhwyso dulliau priodol ac arferion codio yn SQL, lle mae angen.
- Datblygu prosesau dadansoddol atgynyrchadwy a thryloyw gyda threfn gref o ran sicrhau ansawdd a rheoli fersiynau.
- Gwerthuso cyfleoedd i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial a thechnegau dysgu peiriant i wella effeithlonrwydd a mewnwelediad o fewn cynhyrchu ystadegol.
- Dylunio a darparu dangosfyrddau rhyngweithio a delweddau data gan ddefnyddio Power BI, ac offer arall, lle bo’n briodol, i gyfleu mewnwelediadau yn effeithiol.
- Cyflwyno dadansoddiadau mewn ffyrdd clir a difyr, teilwra allbynnau i gynulleidfaoedd amrywiol ac uchafu effaith.
- Darparu cyngor arbenigol ar ddehongliadau ystadegol i randdeiliaid, gan sicrhau bod allbynnau’n llywio’r penderfyniadau a wneir.
- Meithrin a chynnal perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, staff arolygu, a phartneriaid eraill, gan sicrhau bod gwaith dadansoddol yn cael ei yrru gan ddefnyddwyr ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau polisi.
- Troi gofynion dadansoddol cymhleth yn brosiectau go iawn sy’n diwallu anghenion rhanddeiliaid mewn modd amserol.
- Gofyn yn rhagweithiol am adborth i sicrhau bod allbynnau’n parhau’n berthnasol ac yn hygyrch.
- Bod yn rheolwr llinell ar ystadegwyr iau, a’u mentora, gan feithrin diwylliant o ddatblygiad proffesiynol a safonau dadansoddol uchel.
- Hyrwyddo arloesedd mewn dulliau ystadegol, delweddu, a lledaenu, yn cynnwys archwilio rôl Deallusrwydd Artiffisial mewn cefnogi gwaith Estyn.
- Rheoli a monitro cyllidebau dyranedig, gan sicrhau rheolaeth ariannol, tryloywder, a gwerth am arian effeithiol wrth ddefnyddio cyllid cyhoeddus. Cyfrannu at gynllunio ariannol a rhoi sicrwydd fod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon i gyflawni blaenoriaethau sefydliadol.
Cyflog: £45,974 – £54,430 (codiad cyflog yn yr arfaeth)
Hyd: Parhaol
Dyddiad cau i ymgeisio: 10:00yb ar 5 Ionawr 202