A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Uwch Ddatblygwr Meddalwedd / Swyddle
Swydd:
Uwch Ddatblygwr Meddalwedd
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£45,000 - £50,000 am flwyddyn
Cyfeirnod:
REC01448
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
19-11-2025

Disgrifiad Swydd

Sylwer: Mae hon yn rôl hybrid ac mae angen o leiaf 2/3 diwrnod yr wythnos yn y 
brif swyddfa (Pontypridd)

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, gwneud penderfyniadau deallus a bod yn fwy arloesol.  Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydyn ni’n adeiladu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru.  Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

  

Cyfrifoldebau’r swydd

Mae’r swyddogaeth Gwasanaethau TG a Digidol yn sicrhau bod y dechnoleg a’r systemau cywir yn eu lle i gyflawni anghenion technegol TrC a sicrhau bod y sefydliad yn gallu gwneud penderfyniadau busnes ar sail gwybodaeth.

Rydych yn chwarae rôl allweddol mewn cyflenwi’r datblygiadau meddalwedd mewnol a chefnogi ein tîm mewn datblygu meddalwedd, sy’n cefnogi atebion cwsmeriaid digidol aml-lwyfan TrC, apiau newydd, yn ogystal â datblygiad parhaus y busnes tuag at ddod yn ddarparwr trafnidiaeth aml-ddull o’r radd flaenaf.

  • Datblygu platfformau meddalwedd newydd TrC a’r rhai sydd eisoes yn bodoli, arwain ar ddatblygu cod glân, diogel, ac amddiffynadwy drwy fentora aelodau eraill yn y tîm sy’n datblygu syniadau ynghylch y rhain gan ddarparu adborth adeiladol drwy adolygiadau cod
  • Hyfforddi a mentora cydweithwyr iau drwy gyfrannu’n rheolaidd at weithdai a rhaglenni ar gyfer cydweithwyr er mwyn cefnogi’r datblygiad a’r defnydd o’r arfer gorau mewn Cylch Oes Datblygu Meddalwedd
  • Cydweithio â rhanddeiliaid busnes ac adeiladwyr atebion i sicrhau bod y dirwedd o ran atebion digidol yn galluogi gwelliannau mewn perfformiad busnes TrC a’i bod yn cyflawni boddhad cwsmeriaid yn fewnol ac yn allanol

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Profiad a gwybodaeth ddamcaniaethol mewn dylunio, datblygu, a chynnal systemau meddalwedd cymhleth gan gynnwys profiad o ddatblygu Apiau Azure Logic (Azure Logic Apps), Apiau We (Web Apps) a’r Ap ‘C# Function App’
  • Profiad mewn rhoi methodoleg ‘Agile’ ar waith ac arwain arnynt, gan gynnwys ‘Scrum’ a ‘Kanban’
  • Sgiliau o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid i gasglu gofynion, darparu mewnwelediadau technegol, a sicrhau eu bod yn alinio â nodau’r busnes
  • Tracio cofnod o yrru mentrau ar gyfer gwelliannau parhaus, optimeiddio prosesau datblygu, a mabwysiadu technolegau newydd i wella cynhyrchiant y tîm a safon y feddalwedd

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol.

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

**Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**