A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Uwch Reolwr Prosiect / Swyddle
Swydd:
Uwch Reolwr Prosiect
Lleoliad:
Pontypridd, Wrecsam
Cyflog:
Cystadleuol
Cyfeirnod:
REC002696a
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
23-10-2025

Disgrifiad swydd

Noder: bydd lleoliad y rôl hon yn cynnwys Wrecsam neu Lys Cadwyn (Pencadlys Pontypridd).

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, ac yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell ac i fod yn fwy arloesol.  Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb ei safbwynt ei hun, felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy wneud hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru.  Rydyn ni'n creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny’n rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli’r wlad i newid y ffordd y mae’n teithio, fel ein bod i gyd yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu.

Rydyn ni’n weithle agored a chynhwysol, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni eisiau creu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i ddatblygu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i wireddu’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru sef adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion.

 

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd yr Uwch Reolwr Prosiectau yn gyfrifol am reoli a chyflawni nifer o brosiectau gwerth miliynau o bunnoedd fel rhan o Raglen Seilwaith TrC ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau. Bydd y prosiectau’n canolbwyntio ar seilwaith gorsafoedd a depos. 

Mae hon yn swydd amrywiol lle bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar brosiectau Seilwaith yn ôl yr angen.  Sbarduno arloesedd, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a gwelliant parhaus drwy gydol oes y rhaglen a sicrhau bod prosiectau’n cael eu cwblhau’n brydlon, o fewn y gyllideb, ac yn unol â’r safonau diogelwch ac ansawdd uchaf.

Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:

  • Bod yn rheolwr llinell a datblygu Rheolwyr Prosiectau, Rheolwyr Prosiectau Cynorthwyol a Swyddog Cymorth Prosiectau. 
  • Dylanwadu, ysgogi a rheoli timau prosiectau ar draws y sefydliad, gan gynnwys gweithio gyda swyddogaethau cefnogi a Phartneriaid Busnes.   
  • Darparu goruchwyliaeth strategol o gynnydd prosiectau yn erbyn cerrig milltir allweddol a dyddiadau cyflawni drwy fonitro tracwyr prosiectau, mynd ati’n rhagweithiol i nodi a lliniaru risgiau, cydlynu timau traws-swyddogaethol, a darparu diweddariadau amserol i randdeiliaid mewnol ac allanol i sicrhau bod pob prosiect yn cael ei gyflawni ar amser ac yn cyflawni eu rhwymedigaethau diffiniedig yn llawn. 
  • Cynllunio a gyrru’r gwaith o gwblhau holl elfennau’r prosiectau, gan gynnwys yr achos busnes, dilysu diogelwch, gofynion rheoleiddiol, cynllun y prosiectau, cyllideb, gweithredu a throsglwyddo i fusnes fel arfer.
  • Sicrhau eu bod o fewn y paramedrau y cytunwyd arnynt (cwmpas/manyleb, diogelwch, amserlen, cost ac ansawdd). Cynrychioli buddiannau gorau TrC o ran gwerthuso, datblygu a chynllunio effaith y Rhaglen Gwella Gorsafoedd ar fusnes TrC.
  • Sicrhau bod yr holl waith dylunio a chyflawni prosiectau yn bodloni gofynion gweithredol, ac yn canolbwyntio ar y cwsmer.

 

Am beth rydyn ni’n chwilio

  • Profiad amlwg o ddatblygu a chyflawni prosiectau o werth a chymhlethdod sylweddol yn llwyddiannus mewn amgylchedd rheilffyrdd ar draws prosiectau seilwaith cerbydau rheilffyrdd, depos a gorsafoedd.
  • Cymhwyster rheoli prosiect e.e. APM neu PRINCE2.
  • Profiad o gyfres o gontractau NEC o gylch oes prosiect cyfan, gan ddangos dealltwriaeth o reoli prosiectau ar y cyd, lliniaru risg yn rhagweithiol, a’r gallu i gyflawni prosiectau’n effeithlon.
  • Profiad o arwain a datblygu tîm i berfformio’n dda.
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â rheilffyrdd, Iechyd, Diogelwch, yr Amgylchedd a Chydraddoldeb.

 

Sgiliau Cymraeg

Byddai’r gallu i siarad/ysgrifennu yn y Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i gynnal, i ddatblygu ac i loywi eu sgiliau Cymraeg. Rydyn ni'n rhoi cefnogaeth lawn i'n staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Cymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel dysgu ar-lein, cyrsiau mewn ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd i gyrsiau cymunedol lleol.

 

Y camau nesaf

Ai'r swydd hon yw'r cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi ragor o wybodaeth? Trowch at y Disgrifiad Swydd sydd wedi'i atodi i gael rhagor o fanylion.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os byddwn wedi derbyn digon o geisiadau.