A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Uwch Reolwr Prosiect (Cyflwyno i’r Gwasanaeth) / Swyddle
Swydd:
Uwch Reolwr Prosiect (Cyflwyno i’r Gwasanaeth)
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£60,000 - £63,000
Cyfeirnod:
REC01464
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
07-12-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

  • Arwain tîm amlddisgyblaethol i reoli gwaith llywodraethu EiS i ddiogelu buddsoddiad drwy sicrhau bod prosiectau seilwaith TrC yn ddiogel, yn rhyngweithredol, yn cydymffurfio’n dechnegol ac yn cael eu cyflawni i’r safon a bennwyd o fewn cyfyngiadau amser a chost.
  • Dangos bod prosiectau wedi cael eu cyflawni yn unol â gofynion gweithdrefnau, prosesau a Strategaeth EiS TrC drwy gysylltu â'r holl dimau cyflawni prosiectau perthnasol a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod y seilwaith yn ddiogel yn y gwasanaeth gweithredol.
  • Goruchwylio cynnydd prosiectau seilwaith TrC yn strategol yn erbyn cerrig milltir allweddol a dyddiadau cyflawni drwy fonitro tracwyr prosiectau’n drylwyr, mynd ati’n rhagweithiol i ganfod a lliniaru risgiau, cydlynu timau traws-swyddogaethol, a darparu diweddariadau amserol i randdeiliaid mewnol ac allanol i sicrhau bod holl brosiectau seilwaith TrC yn cael eu cyflawni ar amser ac yn bodloni gofynion EiS yn llawn.
  • Datblygu a chynnal dangosfyrddau adrodd ar ddangosyddion perfformiad allweddol i fonitro iechyd holl brosiectau seilwaith TrC a gefnogir, drwy ddefnyddio gwybodaeth i herio rhanddeiliaid mewnol ac allanol, sbarduno atebolrwydd, a hybu gwelliannau parhaus wrth gyflawni prosiectau sy'n sicrhau goruchwyliaeth effeithiol a bod risgiau'n cael eu nodi'n gynnar.
  • Rhagweld a lliniaru risgiau EiS posibl drwy fynd ati'n rhagweithiol i fonitro cynnydd prosiectau seilwaith TrC drwy ddatblygu dealltwriaeth gref o statws EiS i hoelio sylw ar y gweithgareddau risg uchel mwyaf hanfodol i roi’r seilwaith ar waith mewn gwasanaeth gweithredol. 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Peiriannydd Siartredig (CEng), Gweithiwr Prosiect Proffesiynol Siartredig (ChPP), Sefydliad Siartredig Adeiladu (MCIOB) neu achrediad cyfatebol i ddangos y wybodaeth dechnegol, yr ymarfer proffesiynol a'r cymhwysedd angenrheidiol ar gyfer y rôl, neu brofiad cyfatebol.
  • Gradd berthnasol mewn Peirianneg, Rheoli Prosiectau, Adeiladu.
  • Profiad amlwg o arwain timau ar brosiectau seilwaith cyfalaf sy'n fawr, yn uchel eu gwerth ac yn gymhleth.
  • Profiad o reoli proses sicrwydd technegol ar brosiectau mawr drwy gydol oes y prosiect.
  • Gwybodaeth graidd am ddisgyblaethau Amgylchedd Adeiledig, Sifil, Mecanyddol a Thrydanol, Trydanol a Phŵer, Signalau, Telegyfathrebiadau, Traciau, Trydaneiddio a Pheiriannau.
  • Gwybodaeth drylwyr am y rolau allweddol o dan Reoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015 (CDM 2015) a sut maent yn dylanwadu ar weithgareddau prosiectau.
  • Gwybodaeth am sefydlu prosesau newydd a ffyrdd newydd o weithio a gwreiddio newid effeithiol.
  • Gwybodaeth dda am y Dull Diogelwch Cyffredin ar gyfer Gwerthuso ac Asesu Risg (CSM-REA), Rheoliadau Rheilffyrdd (Rhyngweithredu) 2011 (fel y'u diwygiwyd), a Rheoliadau Rheilffyrdd a Systemau Trafnidiaeth Cyfeiriedig Eraill (Diogelwch) 2006 (ROGS).
  • Profiad o roi prosiectau seilwaith “Arwyddocaol” ar waith yn ddiogel o dan CSM-REA yn ogystal â phrosiectau y gellir eu Hawdurdodi o dan Reoliadau Rheilffyrdd (Rhyngweithredu) 2011 (fel y'u diwygiwyd).

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.