A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Uwch Beiriannydd Prosiectau / Swyddle
Swydd:
Uwch Beiriannydd Prosiectau
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
Hyd at 63,000
Cyfeirnod:
REC01461
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
30-11-2025

Disgrifiad Swydd

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

  • Arwain gweithgareddau peirianneg drwy gydol y prosiect i sicrhau bod y prosiect yn ateb gofynion peirianneg, targedau perfformiad a dibynadwyedd, a hynny o fewn cyfyngiadau amser, cost ac ansawdd.
  • Gweithio gyda thîm TrC i ddatblygu a chynnal cyfres o safonau a gweithdrefnau newydd i sicrhau bod prosiectau TrC yn ddiogel, eu bod yn rhyngweithredu, eu bod yn cydymffurfio'n dechnegol a’u bod yn cael eu cyflawni i'r safon a bennwyd, a hynny o fewn y cyfyngiadau o ran amser a chostau. 
  • Datblygu dogfennau cwmpasu ar gyfer y prosiect, Rheolaeth Peirianneg a Chynlluniau Diffinio Systemau, gan nodi sut mae pob prosiect yn cael ei gyflawni ac i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith.
  • Bodloni gofynion cleientiaid drwy weithio ar y cyd â’r Prif Ddylunydd a’r Prif Gontractwr i ddarparu’r lefel gywir o lywodraethiant a sicrwydd peirianneg.
  • Darparu cynrychiolaeth dechnegol yn sefydliad y Cleient o ran peirianneg gwerth, cynaliadwyedd, diogelwch system, mynediad i'r gwasanaeth, a hynny er mwyn cael y datrysiadau peirianneg gorau.
  • Rheoli’r gwaith o drosglwyddo asedau o brosiectau i'r Rheolwr Seilwaith, gan fonitro cydymffurfiaeth beirianyddol er mwyn darparu oes hir ac i sicrhau bod y cynnyrch a ddarperir gennym yn addas i'r pwrpas a bod modd ei gynnal yn y dyfodol.
  • Bod mewn cysylltiad â phartneriaid cyflenwi, y Bwrdd Diogelwch Rheilffyrdd a Safonau a’r cyrff rheoleiddio i ddangos bod y gwaith peirianneg wedi cael ei gyflawni drwy gydymffurfio’n briodol er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth gywir yn cael ei dilyn. 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Peiriannydd Siartredig neu brofiad cyfatebol.
  • Profiad o arwain timau ar brosiectau seilwaith cyfalaf.
  • Profiad o ddarparu prosiectau peirianneg.
  • Gwybodaeth a phrofiad o’r disgyblaethau peirianneg canlynol: sifil a strwythurol, mecanyddol, trydanol, signalau, telegyfathrebu ac archwilio a chynhyrchu.
  • Bod yn gymwys a phrofiadol yn y rolau Prif Ddylunydd a Chleient o dan CDM.
  • Profiad amlwg o gydweithio, gan ganolbwyntio ar feithrin rhwydweithiau cryf a gwella’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu’n gyffredinol.
  • Y gallu i sefydlu prosesau newydd a ffyrdd newydd o weithio a gwreiddio newid effeithiol.
  • Gwybodaeth a phrofiad o gydlynu disgyblaethau peirianneg rheilffyrdd a chymeradwyo dyluniadau.
  • Profiad o weithio gyda Swyddfa’r Rheilffyrdd a'r Ffyrdd neu gyrff rheoleiddio eraill.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.