A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr y Strategaeth Cerbydau - 18 Mis / Swyddle
Swydd:
Rheolwr y Strategaeth Cerbydau - 18 Mis
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
hyd at £70,000
Cyfeirnod:
REC01433
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
02-11-2025

Disgrifiad Swydd

Sylwch: mae hwn yn gontract cyfnod penodol am 18-mis

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

  • Datblygu achosion busnes strategol ar y cyd â'r Uwch Reolwr Strategaeth a rolau cynllunio strategol eraill yn y sefydliadau, drwy ddilyn cyfarwyddyd o'r amcanion strategol i ddarparu pwyntiau gwirio penderfyniadau clir ar gyfer y sefydliad fel rhan o lywodraethiant strategol.
  • Bod yn brif ryngwyneb drwy ddatblygu perthynas adeiladol â chydweithwyr Busnes fel Arfer i sicrhau bod gwybodaeth sy'n cael ei chyflwyno mewn achosion busnes yn cael ei dilysu a'i seilio ar ffeithiau.
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu achosion busnes strategol drwy ddadansoddi a defnyddio'r data sydd ar gael sy'n ymwneud â chynnal a chadw, lleoliadau cynnal a chadw, amserlennu, perfformiad cerbydau, capasiti cerbydau, a'r galw gan deithwyr i sicrhau bod pob achos busnes yn seiliedig ar ffeithiau ac wedi'i ddilysu'n briodol.
  • Bod yn brif gyswllt ag arweinwyr prosiectau, drwy ddatblygu perthynas adeiladol â rhanddeiliaid perthnasol i sicrhau bod y dulliau o gyflawni prosiectau yn cyd-fynd ag achos busnes strategol.
  • Datblygu’n arbenigwr pwnc yn y diwydiant, drwy ymchwil i'r farchnad ac ymgysylltu â'r farchnad, gan gynnwys mynychu fforymau diwydiant a grwpiau defnyddwyr, i sicrhau bod TrC yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â cherbydau yn y dyfodol.
  • Gan weithio gyda'r Uwch Reolwr Strategaeth, bod yn geidwad y broses llywodraethu strategaeth gyffredinol, drwy gefnogi'r gwaith o weithredu ac integreiddio proses lywodraethu gadarn i sicrhau bod newid rheolaeth ar y strategaeth cerbydau gyffredinol ar waith.
  • Bod yn bwynt cyswllt gydag adran Gaffael TrC / TfWRL a'r gadwyn gyflenwi ehangach, drwy fynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein a chyfleoedd rhwydweithio eraill, i sicrhau bod gweithgareddau caffael yn cyd-fynd â rheoliadau priodol.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Cymhwyster gradd mewn Peirianneg, Rheoli Busnes, Rheoli Prosiectau neu faes tebyg, neu brofiad cyfatebol.
  • Gallu meddwl yn strategol a dylanwadu ar uwch arweinwyr.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur.
  • Profiad blaenorol o weithrediadau cerbydau a dealltwriaeth ohonynt.
  • Profiad o Reoli Masnachol.
  • Dealltwriaeth o gyllidebau ariannol.
  • Ymwybyddiaeth o reoliadau Caffael
  • Arweinyddiaeth a rheoli tîm.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.