A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Cymorth Cerbydau'r Ffordd ac Ystadau / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Cymorth Cerbydau'r Ffordd ac Ystadau
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
Cystadleuol
Cyfeirnod:
REC002817
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
18-10-2025

Disgrifiad Swydd

Sylwch: contract dros gyfnod penodol o 6 mis yw hwn

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Mae Trafnidiaeth Cymru yn chwilio am unigolyn trefnus a rhagweithiol i ymgymryd â swydd y Rheolwr Cymorth Cerbydau Ffordd ac Ystadau, i arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau allweddol o fewn ein Swyddogaeth Ystadau Cwsmeriaid. Gan adrodd yn ôl i’r Rheolwr Perfformiad Contractau Ystadau Cwsmeriaid, byddwch yn cymryd perchnogaeth lawn o’r fflyd gerbydau, ac yn sicrhau cydymffurfiaeth rheoleiddiol a darpariaeth strategol ar draws y busnes, yn ogystal â rheolaeth effeithiol o’r gyllideb.

 

Byddwch hefyd yn gyfrifol am brynu nwyddau cyffredinol, darparu cefnogaeth sefydliadol, a chyfrannu at brosiectau sy’n ymwneud â’r fflyd a datblygu polisi. Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid, cynnal arferion cyfathrebu cadarn a darparu gwasanaethau ymarferol ar draws ein swyddogaethau mewnol.

 

  • Byddwch yn sicrhau bod holl yrwyr y cwmni yn bodloni’r gofynion trwyddedu a bod gweithrediadau’r cerbydau yn cyd-fynd â’n safonau mewnol o ran rheoleiddio a diogelwch.
  • Gyda chyllideb flynyddol o £0.5m, byddwch yn goruchwylio’r gwaith o olrhain cerbydau'r fflyd, eu cynnal a’u cadw, eu caffael, eu harchwilio a chadw cofnod o’u defnydd o danwydd.
  • Byddwch yn hyrwyddo'r arfer o gyfathrebu’n glir a darparu gwasanaethau hygyrch ar draws swyddogaethau mewnol yr Ystadau Cwsmeriaid.
  • Byddwch yn ymchwilio i safonau’r diwydiant er mwyn rhoi datrysiadau cost effeithiol o ansawdd uchel a strategaethau sy’n cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru ar waith.
  • Byddwch yn helpu gyda’r gwaith o gyflawni contractau, rheoli nwyddau traul, olrhain dangosyddion perfformiad allweddol a goruchwylio cyllidebau er mwyn sicrhau ein bod yn gwella’n barhaus.

Byddwch yn datblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru’r risg bod tarfu tymhorol, gweithredol neu allanol yn effeithio ar weithrediadau’r trenau

 

 

Am bwy rydym ni’n chwilio

  • Bydd gennych wybodaeth dechnegol dda am weithrediadau fflyd, cydymffurfiaeth cerbydau, rheoli ystadau a’r rhwydwaith
  • Byddwch yn gallu datrys problemau ac addasu i amgylchiadau sy’n newid gan ddefnyddio barn gadarn ac amrywiaeth o egwyddorion i ddarparu canlyniadau effeithiol
  • Bydd gennych brofiad o weithio yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a safonau
  • Bydd gennych sgiliau dadansoddi a chyflwyno da
  • Byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau yn hyderus

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg  

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol.

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.