A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Asesydd Risg a Llwybr Trafnidiaeth / Swyddle
Swydd:
Asesydd Risg a Llwybr Trafnidiaeth
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
Cystadleuol
Cyfeirnod:
REC002878
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
23-11-2025

Disgrifiad Swydd

Asesydd Risg a Llwybr Trafnidiaeth

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd deiliad y swydd hon yn datblygu ac yn gweithredu proses gyson sy'n canolbwyntio ar ddiogelwch a chwsmeriaid i asesu lleoliadau gweithredu Gwasanaethau Bysiau yn lle Trenau (RRS) ac Amseroedd Rhedeg Adrannol (SRTs) ar draws rhwydwaith TrC. Mae hyn yn cynnwys adolygu'r holl leoliadau ac amseroedd presennol i sicrhau eu bod yn gywir, yn gyfreithlon ac yn weithredol briodol, a chreu'r offer, y dogfennau a'r hyfforddiant sydd eu hangen i wreiddio'r broses yn y tîm ehangach.

 

  • Datblygu proses asesu gynhwysfawr ar gyfer lleoliadau gweithredu Gwasanaethau Bysiau yn lle Trenau (RRS), gan sicrhau ei bod yn mynd i'r afael â diogelwch, profiad cwsmeriaid a gofynion gweithredol. Mae hyn yn cynnwys creu ffurflenni safonedig, rhestrau gwirio casglu tystiolaeth, a dogfennau ategol.
  • Dylunio a chyflawni strategaeth i asesu holl leoliadau gweithredu'r Gwasanaethau Bysiau yn lle Trenau a ddefnyddir ar gyfer gwasanaethau TrC, gan ddefnyddio'r meini prawf sydd newydd gael eu datblygu. Mae hyn yn cynnwys cynnal adolygiadau ar y safle ym mhob gorsaf sy'n cael ei gwasanaethu gan TrC, cofnodi canfyddiadau, a nodi lle mae angen gwneud newidiadau.
  • Cydweithio â rhanddeiliaid mewnol, gan gynnwys Tîm Diogelwch TrC, y Tîm Masnachfreinio Bysiau, a'r Timau Rheoli Gorsafoedd, i sicrhau bod y broses asesu yn gyson, yn ymarferol ac yn cyd-fynd â safonau ehangach y sefydliad.
  • Adolygu ac asesu'r holl Amseroedd Rhedeg Adrannol presennol ar gyfer llwybrau Gwasanaethau Bysiau yn lle trenau, gan sicrhau eu bod yn gywir, yn adlewyrchu amodau presennol y ffordd a thraffig, ac yn cynnwys amrywiadau yn ystod cyfnodau brig a chyfnodau tawelach. Rhannu amseroedd wedi'u dilysu â thimau cynllunio perthnasol i'w hintegreiddio wrth gynllunio gwasanaethau yn y dyfodol.
  • Cynnal asesiadau cychwynnol o leoliadau gweithredu'r Gwasanaethau Bysiau yn lle Trenau ac Amseroedd Rhedeg Adrannol ar draws rhwydwaith TrC, gan nodi risgiau, cyfleoedd i wella, a chyfyngiadau gweithredol.
  • Creu a darparu pecyn hyfforddi ar gyfer aelodau'r tîm trafnidiaeth ffyrdd, gan eu galluogi i ddefnyddio'r broses asesu newydd yn gyson ac yn hyderus ar ôl i'r cyfnod penodol ddod i ben.
  • Cynnal system ffeilio gadarn a chywir (electronig a ffisegol) i reoli'r holl gofnodion asesu, data llwybrau, dogfennau risg, a deunyddiau ategol i gyfeirio atynt ac i'w harchwilio yn y dyfodol.
  • Monitro datblygiadau perthnasol yn y diwydiant a newidiadau rheoleiddiol, gan sicrhau bod y broses asesu'n parhau i gydymffurfio ac yn adlewyrchu'r arferion gorau o ran rheoli risg trafnidiaeth ffyrdd.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

 

  • Tystysgrif NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch
  • Dealltwriaeth o weithrediadau trafnidiaeth ffyrdd
  • Profiad o gynnal asesiadau risg
  • Gallu datblygu prosesau strwythuredig a'u rhoi ar waith
  • Gallu rheoli'r rhyngweithio a'r berthynas rhwng rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar faterion cydymffurfio.
  • Gallu cynllunio, trefnu, gweithredu a chyflawni adolygiadau o fewn terfyn amser.
  • Hyfedredd o ran cadw cofnodion a dogfennau cywir