Cyfrifoldebau’r swydd
Bydd y Dadansoddwr Risg yn cefnogi nifer o dimau prosiect, gweithredol a swyddogaethol Trafnidiaeth Cymru i gofnodi, herio, dadansoddi, mesur a monitro risgiau strategol, prosiect a gwasanaeth er mwyn rheoli bygythiadau a phroblemau’n weithredol, a manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gefnogi'r gwaith o gyflawni Strategaeth Gorfforaethol, Gweledigaeth, Cenhadaeth, Diben a Gwerthoedd Trafnidiaeth Cymru.
Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill.
- Trefnu’r data risg a osodir drwy adolygu ansawdd yr wybodaeth a ddarperir gan berchnogion risg i sicrhau ei bod yn bodloni ansawdd digonol ac yn rheoli risg yn effeithiol.
- Llunio adroddiadau rheoli clir a chryno ar gyfer timau prosiectau, arweinwyr swyddogaethol, Bwrdd Gweithredol TrC ac o bosibl weinidogion Llywodraeth Cymru drwy fonitro, casglu, gwerthuso a chrynhoi’r system adrodd ar risg i gefnogi penderfyniadau buddsoddi, cyflawni prosiectau neu wasanaethau.
- Mynd ati’n rhagweithiol i reoli bygythiadau a phroblemau, a manteisio ar gyfleoedd drwy dynnu sylw at, cofnodi, dadansoddi ac adrodd ar y risgiau a diweddaru dangosfyrddau risg i sicrhau bod yr holl risgiau posibl yn cael eu lliniaru ar gyfer prosiectau a gweithrediadau TrC.
- Cynnal adolygiadau risg yn rheolaidd drwy weithio gyda pherchnogion risg i gefnogi'r gwaith o sganio'r gorwel, cynhyrchu risg, asesu risg, lliniaru risg, diweddariadau risg, blaenoriaethu risg ac uwchgyfeirio i ddeall lefel yr ansicrwydd i gynhyrchu Asesiadau Risg Meintiol (QRA) ar gyfer amserlenni a chostau er mwyn rhoi gwybod i Dimau'r Prosiect am lefel yr arian wrth gefn sydd ei angen ar gyfer prosiectau.
Am beth rydyn ni’n chwilio
- Gradd mewn mathemateg, peirianneg, rheoli prosiectau neu bwnc tebyg.
- Meddu ar gymhwyster perthnasol mewn rheoli risg, neu'n gweithio tuag at gymhwyster o'r fath
- Profiad amlwg o reoli risg mewn sefydliad amlddisgyblaethol mawr.
- Profiad o gynnal proses rheoli risg.
- Profiad o offer rheoli risg fel ARM, @Risk ac Acumen.