A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynorthwyydd Hawliau a Materion Busnes / Swyddle
Swydd:
Cynorthwyydd Hawliau a Materion Busnes
Lleoliad:
Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin
Cyflog:
£27,470 y flwyddyn
Cyfeirnod:
s4c26371
Math o Swydd:
Parhaol ( (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa) )
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
17-07-2026

Cynorthwyydd Hawliau a Materion Busnes

Pam ymuno â S4C?

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni barhau i feithrin diwylliant gwaith sy’n rhoi pobl wrth galon y sefydliad ac yn ystod adeg hollbwysig yn hanes y gwasanaeth wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd, S4C - Mwy na Sianel Deledu. 

Trosolwg y Swydd

Byddwch yn cydweithio yn agos gyda’r Swyddogion Materion Busnes, y Swyddog Hawliau a’r tîm Rheoli Cynnwys ac Amserlennu er mwyn sicrhau bod unrhyw gynnwys a ddarlledir wedi ei glirio’n gywir a bod cytundebau hawliau a chliriadau S4C yn cael eu gweinyddu’n gywir yn ogystal â helpu gyda gweinyddiaeth y tîm busnes.

Byddwch yn sicrhau bod yr holl wybodaeth (elfennau hawliau a busnes) am y rhaglenni ar gael i dimoedd ac adrannau eraill S4C drwy gyfathrebu cyffredinol effeithiol a thrwy ddefnyddio system gyfrifiadurol S4C (Cwmwl, system archif  a BSM neu unrhyw olynydd).

Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan wrth gyd-weithio â’r timoedd mewnol a chwmnïau allanol.

Manylion eraill

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa). 
Cyflog:  £27,470 y flwyddyn
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod prawf: 3 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.  Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 17 Gorffennaf 2026 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 
Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Rhestr Fer: 20 Gorffennaf 2026
Cyfweliadau: 23 Gorffennaf 2026