A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rhedwr Cynhyrchu / Swyddle
Swydd:
Rhedwr Cynhyrchu
Lleoliad:
Llanelli
Cyflog:
Dibynnol ar brofiad
Cyfeirnod:
Tinopolis36261719r
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Tinopolis
Dyddiad Cau:
21-06-2026

Rhedwr Cynhyrchu

Tinopolis
Llanelli

Ry' ni'n chwilio am berson brwdfrydig, dibynadwy a threfnus i ymuno â thîm cynhyrchu Tinopolis yn Llanelli. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymwneud â phob agwedd o waith y timau cynhyrchu ar draws ystod o'n cynnwys.

Mae hon yn swydd lefel mynediad, sy'n addas i rywun sydd eisiau dechrau gyrfa mewn cynhyrchu cynnwys a theledu byw.

Bydd y Rhedwr yn helpu gyda llawer o dasgau gwahanol yn y swyddfa, yn y stiwdio, ar leoliad ac yn ystod darllediadau.

Mae angen bod yn drefnus, yn dda am gyfathrebu, yn hyblyg, yn egnïol, ac yn gallu gweithio'n dawel dan bwysau o fewn tîm.


Prif gyfrifoldebau

  • Cefnogi'r tîm cynhyrchu gyda thasgau gweinyddol, ymarferol a gwaith papur o ddydd i ddydd.
  • Helpu gyda threfniadau yn y stiwdio, y swyddfa ac ar leoliadau, gan gynnwys paratoi ardaloedd cynhyrchu, ystafelloedd gwyrdd ac ystafelloedd gwisgo.
  • Cefnogi rhedeg y cynhyrchiad drwy ddosbarthu deunyddiau, symud eitemau rhwng adrannau a helpu gyda rhaglenni byw ac offer megis Awtociw.
  • Croesawu a chefnogi cyfranwyr, gwesteion, talent a chynulleidfaoedd, gan gynnwys cofrestru a threfniadau teithio neu gyflenwadau pan fo angen.
  • Dilyn polisïau iechyd a diogelwch, diogelu a diogelu data, cadw gwybodaeth yn gyfrinachol, a bod yn barod i weithio oriau hyblyg pan fo angen.

Sgiliau perthnasol

  • Sgiliau trefnu a chyfathrebu da, gyda sylw i fanylion a'r gallu i ddefnyddio offer swyddfa megis e-bost a meddalwedd swyddfa.
  • Agwedd gadarnhaol, broffesiynol a dibynadwy, gyda'r gallu i weithio'n dda gyda chydweithwyr, talent, gwesteion a chyfranwyr.
  • Gallu i weithio'n effeithiol dan bwysau, dilyn cyfarwyddiadau a gweithio fel rhan o dîm prysur.
  • Diddordeb mewn cynhyrchu cynnwys ar draws pob platfform, yn enwedig rhaglenni byw, stiwdio a rhaglenni cylchgrawn.

Rydym yn gwmni sy'n awyddus i adlewyrchu'r cymunedau ry’ ni'n gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleon cyfartal. Ry' ni bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb, a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Gydraddoldeb 2010.


Lleoliad

Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE

Cyflog

Yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad Cau

21 Mehefin 2026


Manylion pellach

Oriau Gwaith:
Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau:
Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn:
Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.


Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 12:00 y prynhawn ar Ddydd Sul, 21 Mehefin 2026 at:

swyddi@tinopolis.com
neu
Swyddi, Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE


Nodyn

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU.