A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Gyrrwr Trên Cymwysedig (Caergybi) / Swyddle
Swydd:
Gyrrwr Trên Cymwysedig (Caergybi)
Lleoliad:
Caergybi
Cyflog:
£73,430
Cyfeirnod:
REC002871
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
21-11-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Ydych chi’n Yrrwr Trên Cymwysedig sy’n ymdrechu i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid?  Os ydych, gallai fod yn bryd i chi gael newid!

 

Yn Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig, rydyn ni eisiau pobl falch ac angerddol sydd bob amser yn darparu gwasanaeth rhagorol.

 

Yn benodol, rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n amlygu’r gofynion canlynol:

  • Yn deall beth mae ein cwsmeriaid ei eisiau a rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid yn gyntaf
  • Yn darparu amgylchedd gweithio diogel i’n cwsmeriaid a’n staff bob amser
  • Yn falch o wisgo eu hiwnifform ac yn edrych yn drwsiadus bob dydd
  • Yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant i gyflawni pob agwedd ar eu rôl i safon uchel
  • Yn gydwybodol ac yn gwneud penderfyniadau amserol ar sail eu gwybodaeth am reolau a gweithdrefnau
  • Yn mynd y tu hwnt i’w dyletswyddau gwaith arferol yn ystod cyfnodau o darfu
  • Yn byw o fewn awr i orsaf drenau Caergybi.

Beth arall rydych chi angen ei wybod:

Rydyn ni yma i’n cwsmeriaid pryd bynnag y bydd angen iddyn nhw deithio, sy’n golygu y bydd hyd a phatrymau eich shifftiau’n amrywio – felly bydd angen i chi fod yn hyblyg yn eich oriau gwaith.

 

Oriau:

Gweithio 4 diwrnod yr wythnos, cyfartaledd o 35 awr yr wythnos.

Bydd patrwm eich shifftiau’n cynnwys dechrau’n gynnar/gorffen yn hwyr a phenwythnosau a Gwyliau Banc.

 

Rhaid i chi fod yn Yrrwr Trên Cymwysedig gyda chofnod diogelwch profedig a byw o fewn awr o daith i’r depo o’ch dewis.  Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf hyn, yn anffodus ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.

 

I gael rhagor o wybodaeth, gweler y disgrifiad swydd sydd ynghlwm.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg  

 

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.