A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Cymwysterau / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Cymwysterau
Lleoliad:
Casnewydd
Cyflog:
Cyflog o £47,675 - £56,445 y flwyddyn
Cyfeirnod:
REC000043-26
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Qualifications Wales
Dyddiad Cau:
22-04-2026

Rheolwr Cymwysterau
Casnewydd, Cymru (gyda chyfleoedd gwaith hybrid)

Amdanom Ni 

Cymwysterau Cymru ydym ni, y sefydliad annibynnol sy'n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru.

Ein blaenoriaethau strategol dros y pum mlynedd nesaf yw:

- Datblygu ystod gydlynol a chynhwysol o gymwysterau ar gyfer dysgwyr 14-16 oed
- Adeiladu cynnig cymwysterau effeithiol a chynaliadwy
- Moderneiddio dulliau asesu
- Cefnogi'r system gymwysterau trwy grantiau ac arbenigedd

Rydym nawr yn chwilio am ddau Reolwr Cymwysterau i ymuno â ni ar sail amser llawn, barhaol, gan weithio 37 awr yr wythnos. Gellir trafod ceisiadau am batrymau gwaith amgen, gan gynnwys rhan-amser a rhannu swydd, yn y cyfweliad.

Y Manteision

- Cyflog o £47,675 - £56,445 y flwyddyn
- 31 diwrnod o wyliau blynyddol (ynghyd â gwyliau cyhoeddus a chau swyddfa dros y Nadolig)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Y Rôl

Fel ein Rheolwr Cymwysterau, byddwch yn sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad at gymwysterau cynhwysol o ansawdd uchel, gan arwain y gwaith o ddatblygu a diwygio cymwysterau.

Gan weithio ar draws ein swyddogaethau Polisi a Diwygio Cymwysterau (PCC) a Rheoleiddio, byddwch yn cyfrannu at ddatblygu a goruchwylio polisi neu'n goruchwylio ystod o weithgareddau rheoleiddio, yn dibynnu ar ba faes rydych chi'n gweithredu ynddo.

Gan fonitro cydymffurfiaeth â rheoliadau, asesu tystiolaeth, a gwneud dyfarniadau gwybodus, byddwch yn cefnogi ein swyddogaeth Rheoleiddio trwy reoli achosion cymhleth i sicrhau bod cyrff dyfarnu yn bodloni'r safonau gofynnol. Byddwch hefyd yn cefnogi ein swyddogaeth PCC trwy sicrhau argaeledd a chynaliadwyedd cymwysterau galwedigaethol ôl-16 trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, mewnwelediad i'r sector a gweithgaredd adolygu parhaus.

Yn ogystal, byddwch yn:

- Cynllunio, amserlennu a chyflawni prosiectau
- Darparu cyfeiriad strategol ar gyfer dyfarnu grantiau i gyrff dyfarnu
- Cysylltu â chyrff dyfarnu i olrhain cynnydd
- Penodi a rheoli arbenigwyr pwnc
- Arwain a rheoli tîm bach

Amdanoch Chi 

I gael eich ystyried yn Rheolwr Cymwysterau, bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o weithio ar lefel reoli mewn cyd-destun rheoleiddio, datblygu cymwysterau neu sicrhau ansawdd
- Profiad sylweddol yn y sectorau cymwysterau, addysg neu hyfforddiant
- Profiad o reoli neu arwain prosiectau
- Dealltwriaeth amlwg o bolisi ehangach sy'n effeithio ar y Gymraeg ac addysg y Gymraeg
- Y gallu i feithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda rhanddeiliaid allweddol
- Sgiliau dadansoddi cryf

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 22 Ebrill 2026.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Rheolwr Datblygu Cymwysterau, Rheolwr Rhaglenni Addysg, Rheolwr Prosiect Addysg, Rheolwr Adolygu Cymwysterau, neu Reolwr Rheoleiddio.

Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Gwasanaethau Asiantaeth Gyflogaeth yw'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit.