Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Y Swydd
Noddwr y Prosiect yw arweinydd y prosiect ar gyfer cyflawni a bydd yn ymgysylltu â chleientiaid, gweithrediadau a thimau gweithredu er mwyn gallu rhoi cynlluniau gwella trafnidiaeth ar waith yn llwyddiannus ar ran Trafnidiaeth Cymru (TrC).
Cyfrifoldebau'r swydd
Am beth rydyn ni'n chwilio
Sgiliau Cymraeg
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Cyfle Cyfartal
Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio."
Pwy ydyn ni
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Y camau nesaf
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**