A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Prosiect / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Prosiect
Lleoliad:
Gweithio o Gartref
Cyflog:
£40,000
Cyfeirnod:
202511BF
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Business in Focus
Dyddiad Cau:
03-12-2025

Y Cytundeb

 

Business in Focus yw’r prif bartner cyflwyno o fewn Partneriaeth Fenter Cymru (EPC), ynghyd â Menter Môn, M-SParc a rhwydwaith o asiantaethau cymorth ledled Cymru. Mae EPC wedi llwyddo i ennill y contract i gyflwyno gwasanaeth Busnes Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, gan ddarparu cyngor a chymorth i entrepreneuriaid ledled Cymru.   

 

Mae'r Gwasanaeth Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes yn canolbwyntio ar ddarparu ystod eang o gyngor i bobl ifanc ac egin fusnesau drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys cymorth digidol, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.

 

   

Bu EPC yn llwyddiannus yn eu cais i ddarparu'r ddau wasanaeth cynghori Busnes Cymru: y Gwasanaeth Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes (ESU), a'r Gwasanaeth Twf a Datblygiad Busnes (BDG).

 

 

Y Swydd

 

Y Rheolwr Prosiect - Datblygiad a Thwf Busnes (PM) - yn gyfrifol am gefnogi Pennaeth BDG (HBDG) gyda rheoli prosiectau ychwanegol wedi’u dyrannu gan Lywodraeth Cymru i’r gwasanaeth Busnes Cymru-BDG.  Byddwch yn gyfrifol am brosiectau ar bob cam; cynnig, dechreuad, gweithrediad, cyflawni, gwerthuso ac adolygu.

 

Mae rôl y RhP yn gofyn am gysylltu’n rheolaidd gydag uwch gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill.  Bydd darpariaeth lwyddiannus yn gofyn am weithio’n gydweithredol gyda rheolwyr Busnes Cymru-BDG a chydweithwyr.

 

 

Y Cyfrifoldebau

 

  1. Sefydlu a chynnal prosesau ar gyfer craffu cynigion prosiectau newydd, cynlluniau gwaith prosiectau, sicrhau adnoddau, rheoli prosiectau yn ystod oes y prosiect er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y prosiect a mwyhau Dangosyddion Perfformiad Allweddol a deilliannau, gosod safonau ansawdd a pherfformiad ac asesu risgiau. 
  2. Cefnogi Pennaeth BDG er mwyn rheoli prosiectau BDG ychwanegol.  Cymhwyso profiad rheoli prosiect yn ôl yr angen ar gyfer pob prosiect; paratoi a chyflwyno cynigion, gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chydweithwyr Busnes Cymru yn ystod dechrau prosiectau newydd, cefnogi timau cyflawni yn ystod eu gweithrediad, cydlynu adnoddau, monitro ac adolygu cynnydd, gwerthuso ac adolygu.
  3. Sicrhau bod deiliannau prosiectau’n cael eu cyfathrebu’n glir wrth y rheolwyr cyflawni perthnasol.  Monitro ac adolygu perfformiad yn rheolaidd a chytuno ar gynlluniau gweithredu er mwyn cynnal y targed neu ddychwelyd ato.  
  4. Rheoli perfformiad prosiectau sydd wedi’u dyrannu er mwyn sicrhau perfformiad yn erbyn sicrhau cyflawni Dangosyddion Perfformiad Allweddol, deilliannau a chyllideb ddymunir.  Cysylltu gyda Thimau Rheoli Busnes Cymru a Business in Focus yn ôl yr angen.
  5. Coladu gwybodaeth am reoli ac adroddiadau ar gyfer yr holl brosiectau.  Darparu adroddiadau’n rheolaidd mewn ffordd weithredol ar ddeilliannau prosiectau a/neu’r risgiau wrth Bennaeth BDG ac uwchgyfeirio problemau fel y mae’n angenrheidiol i bob cynllun gwaith prosiect.
  6. Gweithio’n rheolaidd gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar lefel uwch ar bob cam o’r prosiectau, yn ôl yr angen. Sicrhau bod agwedd gydweithredol at Dimau Rheoli Busnes Cymru a’r gwasanaeth Busnes Cymru ehangach, fel y mae’n briodol. 
  7. Mewn cysylltiad gyda Phennaeth BDG a’r Swyddog Cyllid, rheoli cyllidebau a ddyranwyd, gan sicrhau bod gwerthiant yn cael ei reoli a bod adnoddau a ddyrannwyd (dynol, materol a chyllidol) yn cael eu defnyddio i’r eithaf.   Sicrhau bod systemau rheoli ariannol, e.e. codi archebion prynu, gweithgaredd taflen amser, archebion lleoliadau yn cael eu hymgymryd â hwy yn unol â gofynion contractau ac ariannu.
  8. Ar y cyd â swyddogion LlC, cynorthwyo i ddatblygu systemau a llwyfannau digidol BC a gweithio ar y cyd gyda chydweithwyr BDG a/neu dîm digidol LlC i gynnal a datrys problemau, yn ogystal â datblygu llwyfan digidol a gweithrediad system.
  9. Datblygu a chynnal partneriaethau gyda rhwydwaith/system Eco effeithiol a strwythuredig o fusnesau a phartneriaethau, er mwyn i) hyrwyddo gwasanaeth a chynhyrchu cysylltiadau wrth ddatblygu proffil a busnes a phrosiectau twf, ac o ansawdd digonol a ii) datblygu perthnasoedd gyda sefydliadau er mwyn datblygu cynigion gwasanaeth gwerth ychwanegol, a chyfeirio ac atgyfeirio cleientiaid atynt. Sicrhau bod y rhwydwaith/System Eco yn ystod amrywiol o sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, gan gyflawni agweddau allweddol o ddarpariaeth gwasanaeth. Coladu a rhannu gwybodaeth rhwydwaith/ system Eco ar draws y tîm BDG a gwasanaeth BC yn ehangach.
  10.   Cynnal gwybodaeth a dealltwriaeth wych o gefnogaeth a gwasanaethau sector cyhoeddus a phreifat sydd ar gael i gleientiaid a BBaCh ar sail ranbarthol a ledled Cymru.  Cynorthwyo i gasglu a rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws y tîm BDG a gwasanaeth BC yn ehangach.
  11. Cyfrannu’n rhagweithiol i nodi cleientiaid â chanlyniadau llwyddiannus ar gyfer astudiaethau achos marchnata a chysylltiadau cyhoeddus i hyrwyddo gwasanaeth BC-BDG.
  12. Cyflawni mewn modd proffesiynol a gwybodus gyda gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel.
  13. Gweithredu fel esiampl dda a cheisio arwain a chymell y tîm ac eraill, gan hyrwyddo gweithio ar y cyd a chynnal lefelau uchel o egni a chymhelliant.
  14. Cynorthwyo Pennaeth BDG drwy adnabod a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliant parhaus, e.e. cynnwys, gweithdrefnau, systemau gwaith. Rhannu gwybodaeth gyda rheolwyr yn rhagweithiol i ddatblygu ymgysylltiad, cyrhaeddiad a darpariaeth gwasanaeth.
  15. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n rhesymol ofynnol gan Dîm Rheoli Busnes Cymru.

 

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth:

 

  1. Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy’r cymorth busnes sy’n cael ei darparu i gleientiaid Busnes Cymru.
  2. Cynnal ymwybyddiaeth, hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus cyfredol ynghylch materion cydraddoldeb ac amrywiaeth a sut i ddarparu gwasanaeth cynhwysol mewn modd proffesiynol i’r holl gleientiaid.
  3. Darparu a datblygu gwasanaeth cynhwysol yn unol â gwerthoedd Business in Focus a gofynion cytundebol Llywodraeth Cymru.

 

Mae'r uchod yn ddiffiniad bras o gyfrifoldebau'r swydd. Nid yw’n cynnwys pob agwedd ar y swydd y gallai fod gofyn i ddeiliad y swydd ymgymryd â hwy. Mae hyblygrwydd yn hanfodol gan y bydd oriau gwaith deiliad y swydd yn seiliedig ar anghenion y busnes.