A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynhyrchydd (Rhaglenni Cymraeg) / Swyddle
Swydd:
Cynhyrchydd (Rhaglenni Cymraeg)
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
39,697 - 45,697
Cyfeirnod:
480
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
ITV PLC
Dyddiad Cau:
24-10-2025

Cynhyrchydd (Rhaglenni Cymraeg) 

ITV Cymru Wales 

9 mis (cyfnod mamolaeth) 

Lleoliad: Caerdydd 

Ystod llogi: 39697 - 45697 

Y rôl 

Rydym yn chwilio am gynhyrchydd uchelgeisiol i ymuno a’r tîm rhaglenni Cymraeg yn ITV Cymru Wales. 

Mae’r rôl yn berffaith ar gyfer newyddiadurwr creadigol sydd yn ysu am y cyfle i arddangos sgiliau cynhyrchu ar draws ein prif frandiau materion cyfoes (Y Byd ar Bedwar & Y Byd Yn Ei Le.) 

O ddatblygu ymchwiliadau heriol i ymateb i rai o’r straeon mawr rhyngwladol, mae’r rôl yn berffaith i gynhyrchydd creadigol sydd eisiau torri straeon newydd sy'n gosod yr agenda newyddion. 

Yn newyddiadurwr profiadol, gyda chysylltiadau eang bydd gennych ymwybyddiaeth wych o faterion cyfoes Cymru a thu hwnt a phrofiad o dorri straeon gwreiddiol. Bydd hefyd gennych ddealltwriaeth da o wleidyddiaeth a thirwedd gwleidyddol Cymru. 

Bydd gennych brofiad a dealltwriaeth o anghenion cydymffurfiaeth a chanllawiau darlledu a’r gallu i weithio yn annibynnol dan amgylchiadau heriol. 

Yn ddelfrydol bydd gennych sgiliau camera a golygu da a/neu profiad o gyfarwyddo timau cynhyrchu. Yn ddibynol ar brofiad, mae’n bosib y bydd angen i chi gymryd rhai cyfrifoldebau rheoli llinell. 

Sgiliau allweddol 

● Rhuglder yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) 

● Hanes profedig o gynhyrchu newyddiaduraeth wreiddiol a chreadigol. 

● Gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o gydymffurfiaeth a chanllawiau darlledu. 

● Dealltwriaeth dda o blatfformau digidol gyda syniadau am sut i ddenu cynulleidfaoedd newydd i ein cynnwys.

 

Gofynion eraill y rôl 

● Sgiliau hunan saethu cryf a golygu sylfaenol yn ddymunol ond ddim yn anghenrheidiol. 

● Y gallu i ddefnyddio cysylltiadau amrywiol i gynhyrchu syniadau gwreiddol. ● Sgiliau cyfathrebu da er mwyn arwain a chyd-weithio gyda thîm o newyddiadurwyr llai profiadol. 

 

Mae Amrywiaeth, Ecwiti a Chynhwysiant wrth wraidd yr hyn a wnawn yn ITV Cymru Wales ac rydym am sicrhau ein bod yn adlewyrchu ein cynulleidfa ar y sgrin ac yn ein gweithlu. Mae ITV i Bawb ac rydym yn annog ceisiadau gan bobl Fyddar, Anabl a Niwroamrywiol a Phobl o Liw i wneud cais am y rôl hon.

Mae’n rhaid i ni brofi’r sgiliau yma yn ystod y cyfweliad er mwyn gweld sut fydd ymgeiswyr yn ymateb pan maen nhw’n gweithio mewn sefyllfa dan bwysau. Mae hyn yn rhan hanfodol o’r swydd. Byddwn ni bob amser yn ystyried unrhyw gais am addasiadau rhesymol fel rhan 

o’r broses gyfweld – er enghraifft, rhannu prif themâu pan fydd hynny’n cael ei ofyn mewn perthynas â chyflwr niwroamrywiol – ond eto gan sicrhau ein bod ni’n gallu profi gallu ymgeisydd i weithio’n effeithiol yn yr ystafell newyddion. 

Yn ITV, rydyn ni’n gwerthfawrogi’r defnydd o dechnoleg ar gyfer ymchwil wrth wneud cais. Rydyn ni’n deall bod AI, gan gynnwys ChatGPT, yn gallu bod yn adnoddau defnyddiol. Ond, mae gwirionedd a chywirdeb yn bwysig i ni, ac rydyn ni’n disgwyl i ymgeiswyr ddangos eu syniadau a’u profiadau eu hunain. 

Gall ceisiadau sy’n ymddangos eu bod wedi’u copïo’n uniongyrchol o gynnwys a gynhyrchwyd gan AI gael eu gwrthod. Rydyn ni’n credu mewn proses asesu deg a gonest – ac mae eich unigoliaeth yn allweddol i sefyll allan yn ein dewis. 

I wneud cais – 

Anfonwch eich CV, llythyr cais yn ogystal â chynnwys enghreifftiau o’ch gwaith yn eich cais. Gall hyn gynnwys showreel, dolenni i raglenni neu bortffolio sy’n dangos eich gwaith. 

Dyddiad cau: 24/10/25