A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynhyrchydd / Swyddle
Swydd:
Cynhyrchydd
Lleoliad:
Llanelli
Cyflog:
yn ddibynnol ar brofiad
Cyfeirnod:
202509T
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Tinopolis
Dyddiad Cau:
12-09-2025


Ry’n ni’n chwilio am berson creadigol a brwdfrydig i ymuno â thîm cynhyrchu Heno a Prynhawn Da.

Mae’n gyfle cyffrous i greu cynnwys gwreiddiol a blaengar i ddwy o raglenni mwyaf poblogaidd S4C. Mae’r rôl yn gofyn am feddwl creadigol a threfnus ac yn cyplysu gwaith ar y rhaglenni byw yn ogystal ag eitemau wedi eu paratoi o flaen llaw ar gyfer y rhaglenni byw a’r llwyfannau digidol.Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio yn y diwydiannau creadigol gyda gwybodaeth ac adnabyddiaeth dda o Gymru a’i phobl ynghŷd a’r gallu i greu cynnwys apelgar.


Yn ddelfrydol ry’ ni’n edrych am gynhyrchydd profiadol ond byddwn hefyd yn ystyried ymgeiswyrsy’n awyddus i ddatblygu sgiliau cynhyrchydd. Cynigir hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus os yn llai profiadol. Mae agwedd bositif, brwdfrydig yn hanfodol ar gyfer y swydd yma yn ogystal â’r gallu i weithio’n dda gydag eraill. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol.


Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau ry’ ni’n gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleon cyfartal, ac rydym bob amser yn croesawu ceisiadau wrth unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb, a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Gydraddoldeb 2010.

 

Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE


Cyflog: yn ddibynnol ar brofiad
 

Dyddiad Cau: 12 Medi 2025

 

Manylion pellach


Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys, penwythnosau a gwyliau banc.
 

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
 

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
 

Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 12 Medi 2025 at swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE.