A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Polisi / Swyddle
Swydd:
Swyddog Polisi
Lleoliad:
Gweithio o Gartref
Cyflog:
£24,241 to £38,220 dibynnol ar oriau a gytunwyd
Cyfeirnod:
ccpw26820a
Math o Swydd:
Parhaol ( 22.5 i 37 awr yr wythnos (i’w gytuno) )
Cleient:
Chwarae Cymru / Play Wales
Dyddiad Cau:
14-09-2026

Swyddog Polisi

Lleoliad: gweithio o gartref yn bennaf, gyda’r angen am rywfaint o weithio yn y swyddfa a theithio trwy Gymru

Oriau: 22.5 i 37 awr yr wythnos (i’w gytuno gyda’r ymgeisydd llwyddiannus)

Cyflog amser llawn: £24,241 i £38,220 (yn ddibynnol ar yr oriau a gytunwyd) NJC 27-30

Dyddiad cau: 9:00am 14 Medi 2026

Dyddiad cyfweliad: 22 Medi 2026 (bydd y cyfweliad yn cynnwys tasg i asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer y rôl)

Dyddiad cychwyn: 30 Tachwedd 2026

Mae Chwarae Cymru yn recriwtio Swyddog Polisi rhan-amser parhaol i ymuno â’i tîm bychan.

Bydd y Swyddog Polisi’n cefnogi datblygiad a throsglwyddiad gwaith polisi a strategol Chwarae Cymru ar draws cylch gorchwyl cyflawn y mudiad. Gan weithio fel rhan o dîm cenedlaethol bychan, bydd y rôl yn cynnwys ymgysylltu gyda phartneriaid, cyfrannu at brosiectau a rhaglenni, a chefnogi’r sefydliad i ymateb yn effeithlon i ddatblygiadau mewn polisi ac ymarfer ar draws Cymru.

Mae gwybodaeth am a dealltwriaeth o bolisi ac ymarfer sy’n berthnasol i blant, chwarae, gwaith chwarae neu sectorau perthynol yng Nghymru, ynghyd â phrofiad o weithio mewn rôl polisi, datblygu, ymchwil neu rôl debyg yn y sectorau gwirfoddol, cyhoeddus neu sector perthynol arall yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Mae Chwarae Cymru’n croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hil, oedran, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol, statws priodasol, rhyw, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, crefydd neu gredoau.