A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Pennaeth Polisi Plaid Cymru / Swyddle
Swydd:
Pennaeth Polisi Plaid Cymru
Lleoliad:
Caerdydd, Cymru
Cyflog:
Band Uwch Ymgynghorydd (£42,904 – £55,159)
Cyfeirnod:
PennaethPolisi2026
Math o Swydd:
Parhaol ( Parhaol (37 awr yr wythnos) )
Cleient:
Plaid Cymru
Dyddiad Cau:
15-07-2026

Manyleb Swydd: 

Pennaeth Polisi 

 

Teitl Swydd: 

Pennaeth Polisi 

Lleoliad: 

Pencadlys Plaid Cymru, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd 

Mae staff Plaid Cymru yn gweithredu patrwm gweithio hybrid o weithio o bell a gweithio yn y swyddfa. 

Math o Gytundeb 

Parhaol 

Cynigir y cytundeb ar sail barhaol, yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus. 

Hyblyg – Byddai Plaid Cymru yn croesawu ymgeiswyr a ddymunai ymgymryd â'r rôl hon yn llawn amser neu'n rhan amser. 

Cyflog 

Band Uwch Ymgynghorydd (£42,904 – £55,159)  

Fel arfer daw penodiadau ar ochr isaf y raddfa 

Oriau Gwaith 

37 awr yr wythnos, gyda'r angen i weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd. Mae Plaid Cymru yn gweithredu system oriau gwaith hyblyg. Mae'r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau'r flwyddyn pro rata gyda diwrnodau breintiedig ychwanegol. 

 

 

Pwrpas y swydd: 

Yn dilyn canlyniad llwyddiannus y blaid yn etholiadau mis Mai, mae Plaid Cymru yn recriwtio uwch-aelod o staff i’w pencadlys er mwyn arwain ar waith datblygu polisi’r blaid. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth fanwl o fyd gwleidyddol a llunio polisi yng Nghymru. 

Bydd deiliad y swydd yn cydlynu gweithgarwch datblygu polisi'r blaid, gan gydweithio'n agos gydag aelodau etholedig, y Cyfarwyddwr Polisi, uwch staff, y Fforwm Polisi a staff ar draws grwpiau etholedig er mwyn sicrhau bod polisïau'r blaid yn cael eu hymchwilio'n dda, gydag ymgynghoriaeth ag aelodau a rhanddeiliaid, ac wedi eu cyfathrebu'n effeithiol. 

 

Prif gyfrifoldebau: 

  1. Cymryd cyfrifoldeb staff arweiniol ar ddatblygu maniffestos y blaid, gan weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Polisi ac unigolion allweddol eraill. 

  1. Cynnal goruchwyliaeth strategol o weithgarwch datblygu polisi'r blaid, gan gynnwys y Gynhadledd Flynyddol, gan weithio gyda'r Pwyllgor Llywio. 

  1. Sicrhau cydlyniant polisi da gyda'r blaid yn y llywodraeth, a rhwng grwpiau etholedig y Blaid, gan gynnwys Grŵp y Senedd, Grŵp San Steffan, Grwpiau'r Cyngor a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu. 

  1. Cymryd cyfrifoldeb arweiniol am weithredu canfyddiadau ymarferion ymgynghori a phrofi polisi (e.e. arolygon barn a grwpiau ffocws), gan gyfathrebu â'r blaid yn y llywodraeth lle bo angen. 

  1. Cysylltu â rhanddeiliaid a sefydliadau allweddol er mwyn cynorthwyo llywio datblygiad polisi a chyfleu platfform polisi'r Blaid. 

  1. Cymryd cyfrifoldeb arweiniol am fodloni gofynion y Comisiwn Etholiadol o ran y Grant Datblygu Polisi, gan weithio'n agos gyda’r Pennaeth Cyllid a Chydymffurfiaeth i gyflwyno dogfennaeth ar gyfer adrodd ac archwilio'r grant. 

  1. Rheoli'r gyllideb polisi a chynllunio a gweithredu amserlen polisi, gan gynnwys goruchwylio comisiynu ymchwil a phapurau polisi i gynllunio a dyrannu adnoddau'n effeithiol. 

  1. Rheoli staff polisi a digwyddiadau a gyflogir yn ganolog gan y blaid, a chynnal perthnasoedd gwaith agos â staff polisi ac ymchwil ar draws grwpiau etholedig. 

  1. Datblygu gweithgareddau hyfforddi polisi a chefnogaeth i ymgeiswyr a grwpiau allweddol eraill. 

 

Sgiliau Allweddol a Phrofiad  

Angenrheidiol:  

  • Dealltwriaeth ardderchog o blatfform polisi Plaid Cymru 

  • Y gallu i gyfathrebu'n rhugl ac yn effeithiol yn Saesneg a Chymraeg 

  • Y gallu i weithio i derfynau amser, bod yn drefnus a rheoli amser ac adnoddau'n effeithiol 

  • Y gallu i weithio ar nifer o brosiectau gwahanol ar yr un pryd, gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni erbyn dyddiadau allweddol 

  • Dealltwriaeth ardderchog a diddordeb gweithredol ar wleidyddiaeth a materion cyfoes yng Nghymru a thu hwnt 

  • Sgiliau ymchwil a dadansoddiiadol cryf 

  • Y gallu i weithio'n dda fel rhan o dîm, a datblygu perthnasoedd gwaith da ar draws meysydd o gyfrifoldeb 

  • Y gallu i reoli adnoddau a chyllidebau 

Dymunol: 

  • Profiad o reoli llinell 

  • Profiad o weithio gyda gwirfoddolwyr 

  • Profiad o weithio o fewn sefydliadau gwleidyddol a/neu sefydliadau dan arweiniad aelodau 

__________________________ 

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00 Hanner Dydd, Mercher 15 Gorffennaf 2026 

Dyddiad llunio rhestr fer: Dydd Iau 16 Gorffennaf 2026 

Cynhelir cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer: Dydd Mawrth 28 Gorffennaf 2026 

Anfonwch eich ffurflenni cais wedi’u cwblhau at: paula.reed@plaid.cymru