A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Golygydd Ffotograffiaeth ac Asedau Digidol / Swyddle
Swydd:
Golygydd Ffotograffiaeth ac Asedau Digidol
Lleoliad:
Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin
Cyflog:
£39,838.50
Cyfeirnod:
s4cgffaad
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
01-09-2026

Golygydd Ffotograffiaeth ac Asedau Digidol
Pam ymuno ag S4C?

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno ag S4C gan gyfrannu at ddyfodol sy'n ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru gyfan wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd - S4C - Mwy na Sianel Deledu - wrth i ni ehangu ein cynulleidfa gyda'n cynnwys a datblygu ein gwasanaeth Digidol yn Gyntaf.

Trosolwg o'r Swydd

Mae S4C yn chwilio am Golygydd Ffotograffiaeth ac Asedau Digidol i fod yn gyfrifol am reoli, curadu, golygu a dosbarthu delweddau ac asedau cynnwys digidol sy'n cefnogi ein gweithgareddau rhaglennu, marchnata, cyfathrebu, y wasg a digidol.

Gan gyfuno barn olygyddol a chreadigol gref gyda sgiliau rheoli asedau rhagorol, byddwch yn sicrhau bod delweddau ar draws portffolio’r darlledwr yn ddiddorol o safbwynt gweledol, yn cyd-fynd â’r brand ac yn addas ar gyfer ymgysylltu â chynulleidfaoedd.

Gan dynnu ar arbenigedd mewn ffotograffiaeth, dylunio graffeg neu gyfathrebu gweledol, byddwch yn dewis, gwella a rheoli asedau sy'n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo rhaglenni, twf cynulleidfa ac adrodd straeon corfforaethol ar draws llwyfannau darlledu, ffrydio, digidol a chyfryngau cymdeithasol.

Bydd y rôl yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal systemau Rheoli Asedau Digidol, gan sicrhau bod asedau'n cael eu catalogio'n gywir, bod yr hawliau ar eu cyfer yn cael eu rheoli a’u bod yn hawdd eu cyrraedd i randdeiliaid mewnol ac allanol.

Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â'n tîm creadigol wrth i ni barhau i ddatblygu ein prosesau mewnol ar gyfer dyfodol darlledu newydd sy'n cynnwys gwasanaethau ffrydio ac aml-blatfform.

Manylion Eraill

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod mewn swyddfa a gweithio yn y swyddfa’n barhaus am y pythefnos cyntaf ar gyfer hyfforddiant pellach - mae'r hyfforddiant hwn yn debygol o gael ei gynnal yn ein swyddfa/swyddfeydd yng Nghaerfyrddin neu Gaerdydd)

Cyflog: £39,838.50 y flwyddyn

Contract:  Parhaol

Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Rydym yn hapus i drafod oriau gwaith ac i ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n chwilio am waith hyblyg neu ran-amser.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau swyddfa, rhai penwythnosau a gwyliau banc. 

Gwyliau: Yn ogystal â'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn. Os ydych chi'n cael eich cyflogi'n rhan-amser, byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn:  Mae gan staff cyflogedig hawl i ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol sy'n cael ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.  Os ydych chi'n aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Teithio:  Bydd teithio achlysurol yn rhan o'r swydd, fel arfer o fewn y DU

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12yp, 1 Medi 2026.  Nid ydym yn derbyn CV.

Dyddiad Cyfweliadau: 14 Medi 2026, lleoliad i'w gadarnhau.